Neidio i'r prif gynnwy

Brechu plant ifanc rhag y ffliw yn flaenoriaeth allweddol i feddygon teulu yr hydref hwn

13 Hydref 2022

Bydd Meddygfeydd Teulu teulu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gwahodd pob plentyn 2 neu 3 oed (ar 31 Awst 2022) i gael eu brechlyn chwistrell trwyn ffliw blynyddol yr hydref hwn.

Gall plant ifanc fynd yn sâl iawn gyda ffliw. Mae plant dwy a thair oed yn grŵp blaenoriaeth oherwydd nid yn unig y mae plant o’r oedran hwn yn lledaenwyr ffliw ond maen nhw hefyd yn un o’r grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol a mynd i’r ysbyty.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Firws y ffliw sy’n achosi’r ffliw. Gall fod yn salwch annymunol iawn i blant a hefyd arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia.

“Mae’r pandemig wedi ein gwneud ni’n llawer mwy ymwybodol bod brechu yn achub bywydau ac yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty. Efallai na fydd brechiad yn atal eich plentyn rhag dal y ffliw, ond mae’n ei gwneud yn llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty.”

Mae'r brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant yn ddiogel ac yn effeithiol a chaiff ei gynnig bob blwyddyn i blant i helpu i'w hamddiffyn rhag y ffliw.

Os yw'ch plentyn rhwng 6 mis a 2 oed a bod ganddo gyflwr iechyd hirdymor sy'n ei wneud mewn mwy o berygl o gael y ffliw, mae hefyd yn gymwys ond bydd yn cael cynnig pigiad brechlyn ffliw yn lle'r chwistrell trwyn.

Arhoswch i'ch meddygfa gysylltu â chi a gwnewch bob ymdrech i gadw'r apwyntiad a roddir.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am frechiadau, gallwch ofyn i'ch meddygfa neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am gyngor. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/fluvaccine.

Ar ôl cael eu brechu, efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael tymheredd, yn teimlo'n flinedig, yn cael cur pen, yn cael poen yn y cyhyrau neu'n cael llai o archwaeth am ddiwrnod neu ddau. Gall y chwistrell trwyn achosi’r trwyn i redeg neu wedi'i rwystro a gall y pigiad adael braich ddolurus. Mae adweithiau eraill yn llai cyffredin.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau ffliw, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl, yn www.medicines.org.uk/emc. Rhowch enw'r brechlyn yn y blwch chwilio. Enw brand y brechlyn ffliw chwistrell trwyn sydd ar gael yn y DU yw Fluenz Tetra.