Neidio i'r prif gynnwy

Blwyddyn gyntaf addysg nyrsio yn Aberystwyth yn 'hwb mawr'

29 Mehefin 2023

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn datgan bod blwyddyn gyntaf addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hwb mawr i’r GIG lleol, wrth i’r bartneriaeth ddathlu ei blwyddyn gyntaf.

Dechreuodd Prifysgol Aberystwyth gynnig graddau nyrsio mewn Iechyd Oedolion ac Iechyd Meddwl ym mis Medi 2022.

Mae’r graddau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio hyd at hanner eu cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs hefyd yn rhoi lleoliadau gwaith i fyfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Bronglais ac ardaloedd cymunedol er mwyn iddynt gael profiad ymarferol mewn ysbyty.

Mae ymarfer clinigol yn cyfrif am 50 y cant o raglen hyfforddi myfyriwr nyrsio. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae tua 50 o fyfyrwyr wedi cael eu lleoli yn Ysbyty Bronglais a lleoliadau iechyd eraill ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda.

I gefnogi’r lleoliadau ymarfer clinigol a ddarperir gan y bwrdd iechyd, mae’r Brifysgol hefyd wedi creu cyfres o ystafelloedd ymarfer clinigol o ansawdd uchel yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd wedi’i lleoli gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn y dref. Cefnogwyd y datblygiad £1.7 miliwn gan grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod y bwrdd iechyd yn falch o fod yn bartner dysgu ymarfer allweddol gyda Phrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cefnogi’r cwrs o’r cychwyn cyntaf.

“Mae taith y myfyriwr o’r ystafell ddosbarth i’r gweithle yn herio gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd proffesiynol y myfyrwyr ac yn darparu cyfleoedd i drosglwyddo theori i ymarfer ac adeiladu sgiliau ymarferol hanfodol mewn profiad byd go iawn sydd ei angen i baratoi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys,” meddai Mandy.

“Cydweithio yw conglfaen profiad clinigol llwyddiannus i fyfyrwyr nyrsio. Yn y cyfnod heriol hwn mae’r partneriaethau rhyngom ni ac addysg uwch yn hanfodol i ddysgu clinigol ac ar gyfer paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd.

“Nod gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yw bod o fudd i recriwtio a chadw nyrsys yn lleol, yn ogystal â’r potensial i ysbrydoli modelau gofal iechyd newydd. Bydd y cydweithio yn parhau i gyfrannu at wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yn lleol a thu hwnt.”

Wrth siarad am ei lleoliad gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gorwelion, dywedodd Gwenno Jones, myfyrwraig nyrsio o Brifysgol Aberystwyth:

“Fe wnes i fwynhau fy lleoliad yn fawr, roedd pob aelod o staff yn y lleoliad yn gwneud i mi deimlo'n groesawgar ac yn fy nhrin fel rhan o'u tîm. Roedd y staff yn dangos proffesiynoldeb, tosturi, ac empathi tuag at y cleifion dan eu gofal dan bwysau aruthrol ar adegau. Cefais fy annog i gymryd rhan weithredol yng ngofal cleifion yn yr ardal, gan ddarparu gofal nyrsio cyfannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd y byddaf yn eu datblygu yn fy ngyrfa nyrsio.

“Roedd gen i oruchwyliwr ac aseswr gwych a oedd yn gallu dangos ystod eang o glinigau i mi a rhoi cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau a gwybodaeth nyrsio.”

Dywedodd Amanda Jones, Prif Arweinydd Addysg Gofal Iechyd, Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

“Rydym yn falch iawn bod yr addysg nyrsio newydd eisoes yn rhoi hwb i recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer o’r hyfforddiant yn Gymraeg, mae hefyd o fudd i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl bartneriaid sydd wedi helpu i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys y byrddau iechyd lleol, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Dros y blynyddoedd i ddod, a thrwy weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i wneud cyfraniad cynyddol at ddiwallu anghenion ein GIG. Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd newydd yn adnodd pwysig yn yr ymdrech honno. Rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer twf addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth i’r dyfodol.”