Neidio i'r prif gynnwy

BIP Hywel Dda yn ymestyn gwahoddiad am frechlyn COVID-19 i rhai sy'n troi'n 18 ar neu cyn 31 Hydref 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y broses o adnabod unigolion fydd yn troi’n 18 oed ar neu cyn 31 o Hydref 2021 er mwyn eu gwahodd i gael eu brechlyn COVID-19 yn ganolfan brechu torfol.

Ond, er mwyn osgoi oedi, mae’r bwrdd iechyd yn annog y rheini sydd yn agos i droi’n 18 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro i fynychu clinig cerdded i mewn yn un o’r canolfannau brechu torfol.

Noder mai’r brechlyn Pfizer-BioNTech yw’r unig un a ellir ei chynnig i’r rheini sydd dan 18 oed ac y mae ar gael ym mhob canolfan brechu Hywel Dda heblaw am Aberteifi ac ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin.

Bydd canolfan brechu torfol Aberteifi yn symud o’i leoliad presennol i’r hen Ysgol Trewen, wedi’i leoli yng Nghwm Cou (SA38 9PE) wythnos y 26 o Orffennaf, mae tîm brechu’r bwrdd iechyd yn gweithio ar hyn o bryd i geisio darparu cyflenwad o Pfizer ar gyfer de Ceredigion pan fydd y ganolfan yn agor yn ei leoliad newydd.

Yn y cyfamser, gofynnwn i chi ddod ymlaen i gael eich brechlyn yn y canolfannau ar draws y rhanbarth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae eich canolfan brechu torfol lleol ar agor ar gyfer clinigau brechlyn cerdded i mewn ewch i https://biphdd.gig.cymru/.../canolfannau-brechu-torfol/

Ni does angen cysylltu â’r bwrdd Iechyd cyn mynychu clinig cerdded i mewn ond os ydych eisiau trefny apwyntiad gallwch dal wneud hynny drwy gysylltu â’n tîm llogi ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk