Neidio i'r prif gynnwy

Apêl Cemo Bronglais wedi cyrraedd targed o £500,000

28 Medi 2022

Mae Apêl Cemo Bronglais wedi pasio ei tharged o £500,000 mewn dim ond 10 mis! Ac mae’r tîm yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais heddiw yn anfon diolch yn fawr i godwyr arian a chefnogwyr mewn cymunedau lleol.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais ar 30 Tachwedd 2021 gyda’r nod o godi’r £500,000 sy’n weddill sydd ei angen i drawsnewid yr uned ddydd cemotherapi bresennol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn gyfleuster modern, addas ar gyfer y dyfodol.

Ers ei lansio, mae ein cymunedau lleol wedi cofleidio’r Apêl yn drwyadl, gyda’r rhai sy’n codi arian yn cerdded, beicio, golffio, garddio, cynnal dawns haf, a hyd yn oed cynnal digwyddiad teyrnged Elvis i godi arian … ac mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth gan ein cymunedau lleol, mae wedi rhagori ar ein disgwyliadau yn llwyr.

“Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yw pa mor angerddol yw pobl dros eu GIG lleol - a pha mor greadigol ydyn nhw o ran codi arian!”

Sefydliad Moondance yn rhoi hwb

Yn ogystal â’r arian a godwyd yn lleol, mae’r Apêl wedi derbyn rhodd sylweddol gan Sefydliad Moondance.

Dywedodd Diane Briere de l’Isle Engelhardt, sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Moondance: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r Apêl hon i drawsnewid yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais ar gyfer y gymuned leol.”

Gwneud Gwahaniaeth

Dywedodd Bettina Vance, Nyrs Glinigol Arbenigol Cemotherapi: “Ar ran staff yr uned ac Ysbyty Bronglais, hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydym i bawb sydd wedi gwneud yr Apêl yn gymaint o lwyddiant.

“Bydd eich cyfraniad, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i brofiadau cleifion, teuluoedd a staff yn yr uned ddydd cemotherapi. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at y camau nesaf a gwireddu ein breuddwyd o ddarparu uned bwrpasol i’n cleifion.”

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Ceredigion a chyfarwyddwr prosiect ar gyfer datblygu’r uned newydd: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r Apêl, gan gynnwys Sefydliad Moondance, am gydnabod pa mor bwysig yw uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

“Bydd yr uned newydd yn darparu profiad gwell i gleifion mewn cyfleuster modern, addas ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion ar wahanol gamau o ganser, gan gynnig mwy o gysur, preifatrwydd ac urddas.

“Mae cam dylunio technegol y prosiect eisoes wedi dechrau, ac rydym yn rhagweld y bydd gwaith adeiladu’n dechrau yn haf 2023. Y targed yw i’r uned cemotherapi newydd fynd yn fyw yn haf 2024.


“Mae’r cyfanswm a godwyd gan Apêl Cemo Bronglais yn sefyll heddiw yn £591,316. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws canolbarth Cymru. Gyda'r hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu dros y misoedd nesaf. Felly, bydd rhagori ar y targed gwreiddiol o fudd mawr i’r prosiect.”