Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydeddu ein cyn-filwyr â thorchau ffiol brechlyn

11 Tachwedd 2021

Ar Ddydd y Cofio hwn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn dathlu ein cyn-filwyr gyda thorchau a grëwyd yn garedig gan Oriel VC yn Hwlffordd. 

Ar ôl treulio amser yn gweithio yn ein canolfannau brechu, lluniodd Douglas Mottram, Swyddog Cymorth ar gyfer y Tîm Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant, syniad i ailgylchu ac ailgyflenwi topiau ffiolau brechlyn i greu pabi.

Creodd Oriel VC, sy’n cefnogi cyn-filwyr ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn enwedig trwy hyrwyddo celf a chrefft, bum torch wedi’u creu o dopiau ffiolau brechlyn a ailgylchwyd o’n canolfannau brechu. 

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant: “Mae’r lluoedd arfog wedi chwarae rhan enfawr wrth gefnogi ymateb Covid-19 yn Hywel Dda, gan weithio yn ein canolfannau brechu yn gynharach yn y flwyddyn fel rhan o’u lleoliad cenedlaethol. 

“Roedd creu’r torchau hyn yn ymddangos yn ffordd addas i gydnabod eu cyfraniad ac i anrhydeddu a chofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf.”

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda: “Mae’n hyfryd sut mae Anna, Doug a gweddill timau’r Bartneriaeth Strategol wedi dod a’r syniad arloesol hwn ynghyd gyda chymorth Oriel VC.

“Mae’r torchau hyn yn rhoi cipolwg bach ar faint o fywydau y mae’r brechlyn Covid-19 wedi’u hachub. 

“Maen nhw’n symbol o ymateb arwrol, hunanaberth ac ymrwymiad llwyr ein staff a’n cyn-filwyr yn y rhyfel yn erbyn y pandemig, ac yn cofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau, eu hanwyliaid a’n staff a fu farw ac a oedd yn gofalu am y rhai sâl a’r rhai a oedd yn marw.” 

Cyflawnodd BIP Hywel Dda wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn ym mis Gorffennaf 2021 ac mae wedi ymrwymo i gefnogi iechyd a lles cyn-filwyr. Am fwy o wybodaeth, ewch i  https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/cyfamod-y-lluoedd-arfog/ neu https://www.veteranswales.co.uk

Mae'n draddodiad i'r Bwrdd Iechyd osod torch mewn digwyddiadau coffâd Sul y Cofio ym mhob un o'r tair ardal awdurdod lleol.

Ar Sul y Cofio, 14eg Tachwedd, byddwn yn osod torchau yn:

  • Cofeb Rhyfel y Dref yn Hwlffordd o 10:35 AM
  • Cofeb Rhyfel y Sir yn Stryd Priory, Caerfyrddin o 10:00 AM
  • Cofeb Ryfel yn Castle Point, Aberystwyth o 10:45 AM
  • Tiroedd Neuadd y Dref Llanelli o 10:10 AM
  • Senotaff Tref Penfro o 10:00 AM a
  • Cofeb Ryfel Dinbych-y-pysgod o 11:00 AM.

Cymerwch hwn fel gwahoddiad i dyst ac os gallwch dalu gwrogaeth i ddioddefwyr rhyfel y gorffenol a’r presenol, naill ai yn y digwyddiadau neu'r gwasanaethau hyn yn eich ardaloedd lleol mewn ffordd ddiogel bosibl.