Neidio i'r prif gynnwy

Anogir trigolion Hywel Dda i ddefnyddio gwasanaeth 'Pwyso 2' GIG 111 Cymru ar gyfer cymorth iechyd meddwl

9 Hydref 2026

Mae pobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd angen siarad â rhywun ar frys am eu hiechyd meddwl, neu sy'n poeni am deulu neu ffrindiau, yn cael eu hatgoffa y gallant ffonio 111 a phwyso 2. 

Wrth ddefnyddio gwasanaeth 'Pwyso 2' GIG 111 Cymru, bydd galwyr yn siarad ag aelod ymroddedig o dîm iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; byddant yn gwrando, yn asesu eu hanghenion ac yn trefnu cymorth pellach os oes angen. 

Mae gwasanaeth 'Pwyso 2' GIG 111 Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i blant ac oedolion o bob oed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'r rhif yn rhad ac am ddim i'w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl. Mae'r gwasanaeth yn hygyrch i bobl fyddar drwy ap Relay UK neu ffôn testun. 

Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Grŵp Gofal Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn gwybod bod niferoedd uwch nag erioed o bobl yn profi anawsterau iechyd meddwl, a gall fod yn anodd gwybod i bwy i droi am gymorth. 

"Gwasanaeth 'Pwyso 2' GIG 111 Cymru yw'r un pwynt mynediad y mae angen i bawb ei gofio ar gyfer cyngor a chymorth iechyd meddwl, gan ddileu'r angen i lywio drwy wasanaethau gwahanol neu aros am atgyfeiriad. 

"Bydd ein staff hyfforddedig yn gwrando ac yn eich arwain; gall hyn gynnwys cyngor, cyfeirio at gymorth yn y gymuned neu hwyluso mynediad at dimau iechyd meddwl arbenigol." 

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Dydd Sadwrn 10 Hydref 2026), rydym yn atgoffa pobl pam mae iechyd meddwl da mor bwysig, a sut y gallwn ei flaenoriaethu yn ein bywydau a'n cymunedau. Mae hefyd yn gyfle i siarad yn agored a gwrando ar yr hyn y mae eraill yn ei brofi.

Ychwanegodd Liz Carroll: “Mae argyfwng iechyd meddwl yn brofiad gofidus ac yn aml yn un dryslyd iawn i’r rhai yr effeithir arnynt. Rydym am i bobl wybod y gallant ffonio 111 a phwyso 2 i gysylltu â rhywun yn lleol a all roi cyngor a chymorth iddynt. 

“Mae ein gwasanaeth ‘Pwyso 2’ ar gyfer GIG 111 Cymru yn gweithio’n agos gyda meddygon teulu – sy’n chwarae rhan bwysig o ran cefnogaeth barhaus, yn enwedig o ran meddyginiaeth – yn ogystal â gwasanaethau cymunedol a timau iechyd meddwl arbenigol, fel rhan o system ofal gydgysylltiedig. 

“Does dim angen i chi geisio deall y system ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael, ac mae’n dechrau gydag un alwad.” 
 
I gael rhagor o wybodaeth neu i ddysgu mwy am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael, ewch i wefan y bwrdd iechyd https://biphdd.gig.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi (agor mewn dolen newydd) a chlicio ar ‘llesiant iechyd meddwl’. Os oes risg ddifrifol i fywyd, ffoniwch 999.