Neidio i'r prif gynnwy

Annog rhieni a gofalwyr plant o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 i lenwi'r ffurflen gydsynio electronig ar gyfer brechlyn y ffliw

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog rhieni a gofalwyr i lenwi ffurflen gydsynio ar-lein ar gyfer brechlyn ffliw eu plentyn cyn sesiynau brechu yn yr ysgol yn ystod tymor yr hydref hwn.

Bydd y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i roi'r brechlyn chwistrell trwynol yn erbyn y ffliw i blant o ddosbarth derbyn hyd at Flwyddyn 11.

Mae angen i rieni a gofalwyr lenwi ffurflen gydsynio ar-lein newydd i nodi eu penderfyniad a sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn mwyaf addas cyn gynted â phosibl. Mae hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod y sesiynau brechu yn yr ysgolion yn rhedeg yn esmwyth.

Dylai'r rhai na allant lenwi'r ffurflen am unrhyw reswm gysylltu â'r Tîm Nyrsio Ysgolion i gael cymorth cyn gynted â phosibl drwy ffonio 0300 430 7777.

Gall y ffliw fod yn salwch difrifol ac mae'n lledaenu'n hawdd ymhlith plant. Mae brechu yn helpu i amddiffyn plant rhag mynd yn sâl ac yn lleihau lledaeniad y ffliw i aelodau o'r teulu, ffrindiau a phobl agored i niwed yn y gymuned.

Y brechlyn a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant yw'r brechlyn chwistrell trwynol. Gall plant na allant gael y brechlyn chwistrell trwynol am resymau meddygol nawr gael y brechlyn ffliw trwy chwistrelliad yn yr ysgol gan y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion.

Mae'r brechlyn chwistrell trwynol yn cynnwys gelatin porc. Gall rhieni a gofalwyr sy'n well ganddynt i'w plentyn beidio â chael y brechlyn hwn ddewis chwistrelliad sydd heb gelatin ynddo. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys canllawiau gan sefydliadau ffydd, ar gael drwy'r ffurflen gydsynio.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Hywel Dda: "Gall y ffliw wneud plant yn sâl iawn a gall hyd yn oed arwain at orfod mynd i'r ysbyty. Mae hefyd yn lledaenu'n gyflym drwy aelwydydd, ysgolion a chymunedau.

"Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn eich plentyn a sicrhau eu bod yn aros mor iach â phosibl. Mae cael brechlyn ffliw hefyd yn helpu i leihau lledaeniad y ffliw i eraill." “Sicrhewch eich bod yn cymryd ychydig funudau i ddarllen y wybodaeth am frechlyn y ffliw fel y gallwch wneud y penderfyniad gorau i chi a’ch plentyn.

“Gan fod achosion o ffliw yn dechrau’n gynharach nag arfer eleni, mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau eich bod chi a’ch cymuned wedi’ch diogelu.”

Gall pobl ifanc 16 oed a hŷn roi eu caniatâd eu hunain. Mewn rhai achosion, gall pobl ifanc dan 16 oed hefyd roi caniatâd os ydynt yn deall yn llawn y brechiad sy’n cael ei gynnig. Fodd bynnag, anogir rhieni a gofalwyr i gymryd rhan a thrafod y brechlyn gyda’u plentyn cyn i’r sesiwn ddigwydd.

Ar ôl dychwelyd y ffurflen gydsynio electronig, nid oes angen cysylltu â nyrs yr ysgol oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich plentyn yn cael brechlyn y ffliw mewn man arall
  • mae unrhyw newidiadau i iechyd eich plentyn
  • mae meddyginiaeth asthma eich plentyn yn cael ei chynyddu
  • rhagnodir steroidau llafar i’ch plentyn
  • mae eich plentyn yn datblygu symptomau chwibanu wrth anadlu

Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, ffoniwch 0300 430 7777 cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith olaf cyn i dîm nyrsio ysgolion ymweld ag ysgol eich plentyn.

I gael gwybod pryd y bydd Tîm Nyrsio’r Ysgol yn ymweld ag ysgol eich plentyn, ewch i'n tudalen imiwneiddiadau ysgol (agor mewn dolen newydd).

Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r ffurflen gydsynio electronig (agor mewn dolen newydd).