Neidio i'r prif gynnwy

Amser o hyd i ddweud eich dweud ym mis Mai ar y gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru

18 Mai 2023

Mae dyddiadau pellach wedi eu cyhoeddi fel rhan o'r broses ymgysylltu cyhoeddus ffurfiol am EMRTS Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru.

Mae gan yr ymgysylltu, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023 gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu sy'n cael eu cynnal drwy gydol mis Ebrill, Mai a chau ddechrau Mehefin, ddewis o sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein lle gall pobl roi eu hadborth ar sut maen nhw'n meddwl y gellir gwella'r gwasanaeth ambiwlans awyr ymhellach.

Penodwyd y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy, gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) i archwilio a gwneud y mwyaf o'r gweithgaredd ychwanegol y gellid ei gyflawni o ganolfannau presennol ac i archwilio opsiynau i ad-drefnu'r gwasanaeth ambiwlans awyr.

Dywedodd y Comisiynydd, Stephen Harrhy: "Mae Adolygiad Gwasanaeth EMRTS yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cleifion sydd angen y gwasanaeth gofal critigol pwysig hwn yn gallu cael mynediad iddo waeth ble maen nhw'n byw yng Nghymru neu pryd maen nhw ei angen.

"Rydym yn gwybod bod EMRTS yn achub bywydau a bod cleifion sy'n cael eu trin gan EMRTS yn gwella'n well ac yn gyflymach, felly mae'r Adolygiad diduedd yma i ystyried faint o bobl â phosib yng Nghymru allai elwa o'r gwasanaeth yma, yn ogystal ag ystyried y defnydd mwyaf effeithiol o sgiliau clinigol, ac adnoddau eraill.

"Rydym wedi cael diddordeb da gan randdeiliaid yn Adolygiad Gwasanaeth EMRTS hyd yn hyn ac rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau gwerthfawr gan ymatebwyr hyd yma."

Mae cryn dipyn o wybodaeth ar wefan EASC sy'n cynnwys fideo 'esboniwr' ac adran Cwestiynau Cyffredin manwl am y Gwasanaeth, dogfen dechnegol lawn, dogfen gryno, a fersiynau Easy Read.

Esboniodd Mr Harrhy: "Rydym yn cydnabod bod llawer o wybodaeth gymhleth i'w chyfleu am agweddau clinigol a gweithredol sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio nawr y bydd angen ei deall er mwyn rhoi adborth.  Rwy'n annog pawb i ddefnyddio'r wybodaeth hon yn fawr cyn mynychu unrhyw un o'r sesiynau ymgysylltu gan y dylai helpu i egluro unrhyw ymholiadau."

Gall unrhyw un a hoffai ymuno â'r rhestr ddosbarthu rhanddeiliaid i dderbyn diweddariadau rheolaidd am yr Adolygiad hwn anfon e-bost at: EASCServiceReviewQueries@wales.nhs.uk yn gofyn am gael ei ychwanegu.