Neidio i'r prif gynnwy

Adfer mesurau yn Ysbyty Glangwili oherwydd cynnydd mewn achosion o COVID-19

Arwydd Ysbyty Glangwili

14 Gorffennaf 2022

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o weithgarwch COVID-19 yn ei ysbytai, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynyddu mesurau cyfyngol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar unwaith.

  • Gohirio ymweliadau â chleifion/wardiau o ddydd Iau 14 Gorffennaf, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau a ystyrir yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward
  • Pobl sy’n mynychu apwyntiadau cleifion allanol i fynychu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas/rhiant.
  • Ymweliadau cyfyngedig ar waith ar gyfer unedau mamolaeth, pediatreg a newyddenedigol:

- Mamolaeth - bydd presenoldeb partner cefnogol yn parhau i gael ei gefnogi;;

- Pediatreg - un prif riant/gofalwr bob amser gyda'r gallu i newid unwaith yn ystod cyfnod o 24 awr;

- Newyddenedigol - Mam bob amser gydag ymweliadau cyfyngedig i bartneriaid

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad i atgyfnerthu’r mesurau hyn yn Ysbyty Glangwili yn ogystal ag Ysbyty Llwynhelyg er mwyn lleihau’r risg i’n cleifion a’n staff a diolch i bobl am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad ar yr adeg hon.

“Bydd y sefyllfa yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei hadolygu a’i diweddaru yn gynnar yr wythnos nesaf, a bydd codi’r cyfyngiadau hyn yn dibynnu ar niferoedd achosion ysbytai a gweithgarwch cymunedol. Gallwn i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i amddiffyn pobl agored i niwed a’r GIG.

Mae ymweliadau ag Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tywysog Philip a’n hysbytai cymunedol yn parhau ar agor, trwy apwyntiad yn unig.

“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a gwneud prawf llif ochrol. Os yw’n bositif, rydym yn eich annog i ynysu – bydd hyn yn eich helpu orffwys a gwella wrth amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch barhau i archebu prawf LFD yng Nghymru am ddim, tan 31 Gorffennaf, drwy fynd i www.gov.uk (opens in new tab) a chwilio ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’. Os nad ydych chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).

Cyngor iechyd y cyhoedd yw parhau i ynysu os byddwch yn cael canlyniad cadarnhaol, naill ai am 10 diwrnod, neu ar ôl dau ganlyniad LFD negyddol yn olynol o ddiwrnodau 5 a 6.