Mae Ysbyty Enfys Carreg Las, sef ysbyty maes yn Sir Benfro, bellach yn weithredol ac yn derbyn cleifion.
Bydd y safle capasiti ychwanegol ar bentref gwyliau Bluestone ger Pont Canaston yn darparu hyblygrwydd ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud cleifion allan o ysbytai acíwt wedi iddynt gael eu hasesu fel rhai nad oes angen mewnbwn meddygol arnynt mwyach, ond yn dal i fod angen rhywfaint o ofal cyn cael eu rhyddhau gartref neu i gyfleuster gofal cymunedol.
Mae hyn yn rhan o ymateb parhaus y bwrdd iechyd i bandemig COVID-19, gan ei fod yn caniatáu ar gyfer rheoli capasiti a llif cleifion yn well yn yr ysbytai acíwt. Bellach mae ysbytai maes ym mhob un o'r tair sir, gyda hyd at uchafswm o 390 o welyau ar gael i'r bwrdd iechyd.
Mae cleifion ym mhob safle yn cael gofal gan dîm aml-broffesiynol profiadol, gan gynnwys nyrsys, therapyddion a swyddogion cyswllt cleifion. Bydd cleifion yn treulio tua wyth i naw diwrnod mewn ysbyty maes cyn cael eu rhyddhau.
Meddai Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol ac Arweinydd Clinigol BIP Hywel Dda ar gyfer yr ysbytai maes: “Rydyn ni wrth ein bodd bod gennym safle capasiti ychwanegol gweithredol arall i helpu i leddfu pwysau ar ein hysbytai acíwt.
“Mae COVID-19 yn mynd i fod gyda ni am gryn amser, ac er bod cyflwyno dau frechlyn yn newyddion gwych, mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gofal gorau posib i'n cymunedau. Mae'r ysbytai maes hyn yn rhan bwysig o'n strategaeth ehangach i fynd i'r afael â'r pandemig.
“Mae’n bwysig pwysleisio nad oes gan yr un o’r ysbytai maes adrannau brys nac unrhyw wasanaeth cerdded-mewn arall ac na ddylai aelodau’r cyhoedd eu defnyddio yn y fath fodd. Dylai unrhyw un sydd angen gofal meddygol gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio 111.”
Meddai Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson: “Mae'r cyngor yn parhau i fod yn hynod falch o'r gwaith partneriaeth a arweiniodd at greu ysbyty maes Ysbyty Enfys Carreg Las yn gyflym y llynedd.
“Roeddem yn amlwg wedi gobeithio efallai na fyddai byth angen y cyfleuster, ond mae'n hynod galonogol bod ysbyty maes Ysbyty Enfys Carreg Las ar gael ac yn barod i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar ein staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd.
“Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu trwy barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac atal COVID-19 rhag lledaenu.”
Fis diwethaf, cafodd Ysbyty Enfys Carreg Las, ynghyd ag Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ganmoliaeth uchel gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Hwn oedd y tro cyntaf i AGIC archwilio lleoliadau o'r fath a chanfu arolygwyr fod prosesau priodol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion.