Neidio i'r prif gynnwy

Yr Athro Hopkins yn ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth y Prif Swyddog Gwyddonol

Mae’r Athro Chris Hopkins

27 Hydref 2022

Mae’r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ennill y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd Prif Swyddog Gwyddonol y GIG.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd y Prif Swyddog Gwyddonol yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau a chyflawniadau’r gweithlu gwyddor gofal iechyd a’r effaith a gânt ar ganlyniadau cleifion drwy hyrwyddo astudiaethau achos ysbrydoledig o wella ansawdd, partneriaeth arloesol, a darparu gwasanaethau arloesol.

Dywedodd y Prif Swyddog Gwyddonol, yr Athro Fonesig Sue Hill OBE: “Mae’r wobr ymchwil ac arloesi yn dathlu gwyddonwyr gofal iechyd sydd wedi gwneud gwaith gwyddonol arloesol ac wedi sefydlu cydweithrediadau cryf ar gyfer arloesi a menter i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn gofal cleifion. Llongyfarchiadau i'r Athro Hopkins a thîm TriTech sy'n enghraifft wych o hyn. Dod ag ymchwilwyr, arloeswyr, clinigwyr a pheirianwyr ynghyd i ddylunio, datblygu a gweithredu technolegau arloesol newydd yng Nghymru a ledled y DU.”

Wrth sôn am ei wobr, dywedodd yr Athro Chris Hopkins: “Mae’n anrhydedd cael fy nghyhoeddi fel enillydd Gwobr Ymchwil ac Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd y Prif Swyddog Gwyddonol. Yn TriTech rydym yn ymfalchïo mewn ymgymryd ag ymchwil ac arloesedd sy’n torri tir ac yn datblygu atebion gofal iechyd i wella canlyniadau cleifion.

“Diolch i gydweithwyr TriTech a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac i’n holl bartneriaid a’n cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus, a hebddynt, ni fyddai llwyddiant y wobr hon yn bosibl.”

Wrth longyfarch yr Athro Hopkins ar ei wobr, ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r wobr hon yn cydnabod arweinyddiaeth ac ymroddiad Chris i hybu ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a’i lwyddiant yn adeiladu diwylliant o arloesedd, gan gefnogi staff clinigol i arwain ac ymgysylltu gyda thechnolegau a systemau newydd. Llongyfarchiadau mawr i Chris a’r tîm Arloesedd a TriTech.”

Sefydlwyd y Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2021, yn cynnwys ymchwilwyr, peirianwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr sy’n arwain y diwydiant. Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi datblygiad datrysiadau gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang gan gynnig un pwynt mynediad i’r GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr trwy ddull cydweithredol ac ystwyth.

I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i https://biphdd.gig.cymru/