Neidio i'r prif gynnwy

Ymweld â gofal yn Ysbyty Tywysog Philip

27 Rhagfyr 2024

Gofynnir i ymwelwyr Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw symptomau tebyg i ffliw, neu unrhyw symptomau salwch, a gofynnir i ymwelwyr wisgo mwgwd cyn cael mynediad i wardiau.

Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal heintiau yn cael eu cymryd. Gofynnir i ymwelwyr fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw heintiau ac i olchi dwylo a gwisgo mwgwd wyneb, y gellir eu darparu ar y wardiau.

Cyfyngir ymhellach ar ymweliadau â'r Uned Asesu Meddygol Acíwt a hynny drwy drefniant gyda phrif nyrs y ward yn unig.

Bydd ceisiadau penodol i ymweld yn cael eu hystyried yn unigol. Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu’n ddyddiol, a bydd cyfyngiadau’n cael eu codi cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Meinir Williams, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Tywysog Philip: “Yn y wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo mygydau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad.

“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydych yn teimlo’n sâl.

“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia a all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.”

Bydd canolfannau brechu ar agor, nid oes angen apwyntiad ar 27, 30 a 31 Rhagfyr ar gyfer pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw a COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant 2 oed (ar 31 Awst 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11 sy’n gallu cael gafael ar y brechlyn ffliw trwynol yn y canolfannau.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 09.15am a 5.30pm i'ch canolfan frechu agosaf:

• Aberaeron (Canolfan Gofal Integredig Aberaeron, Aberaeron SA46 0DY)

• Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW)

• Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE)

Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:

Brechiad Ffliw

• Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024

• Plant yn yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6

• Plant mewn ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11

• Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol

• Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)

• Merched beichiog

• Gofalwyr 16 oed a throsodd

• Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

• Pobl ag anabledd dysgu

• Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

• Pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid

• Gweithwyr dofednod mewn risg uchel

Brechiad COVID-19

• Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy'n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)

• Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn

• Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)

• Gofalwyr di-dâl

• Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

• Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael mynediad at y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu e-bostiwch: ask.hdd@wales.nhs.uk