1 Gorffennaf 2025
Mae dros 1,000 o bobl mewn cymunedau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru eisoes wedi rhannu eu barn am newidiadau posibl i wasanaethau gofal iechyd mewn holiadur.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori â phobl ar naw gwasanaeth gofal iechyd i wella mynediad a safonau ac ymdrin â'r heriau cyfredol.
Y gwasanaethau yw gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg.
O'r ymatebion i'r holiadur hyd yn hyn, mae 40% gan bobl yn Sir Benfro, 34% gan bobl yn Sir Gaerfyrddin, 23% gan bobl yng Ngheredigion a 3% gan bobl sy'n byw mewn mannau eraill.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Bydd y newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yn canolbwyntio ar fuddiannau gorau pobl canolbarth a gorllewin Cymru drwy wella ansawdd a diogelwch y gofal y gallwn ei ddarparu.”
“Mae gennym opsiynau ar gyfer pob un o’r naw maes gwasanaeth i wella mynediad i gleifion, gwella safonau, neu i helpu i ddelio â heriau wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn. Ond mae angen i ni wybod pa rai, yn eich barn chi, sydd orau i ymdopi â’r heriau, neu unrhyw bryderon y credwch y byddai gan yr opsiynau hynny. Rydym hefyd yn annog unrhyw opsiynau neu syniadau amgen, yn ogystal â bod eisiau gwybod eich barn ar rôl ein prif ysbytai yng ngorllewin a canolbarth Cymru yn y dyfodol.”
Yn yr holiadur mae sawl opsiwn ar gael ar gyfer nodi dewis, gan gynnwys ‘dim dewis penodol’ neu ‘ddim yn gwybod’. Mae cwblhau’r adran hon yn ddewisol, ac mae maes testun agored ar gael ar gyfer sylwadau ychwanegol neu i awgrymu syniadau amgen.
Bydd y Bwrdd yn ystyried popeth y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys asesiadau effaith iechyd a chydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw syniadau newydd ac ni fydd penderfyniadau’n seiliedig yn unig ar ddewisiadau opsiynau yn yr holiadur.
Mae ystod eang o wybodaeth ategol ar ein tudalennau gwe pwrpasol, a all eich helpu i ffurfio eich barn. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:
Gallwch ymuno â phobl sydd eisoes wedi rhannu eu barn ac mae yna amrywiaeth o ffyrdd hawdd o wneud hynny:
Ar-lein: Gellir cwblhau'r holiadur ar-lein drwy'r ddolen sydd ar gael ar wefan yma (agor mewn dolen newydd)
Gofyn am ddanfon holiadur: Gellir postio copi papur o'r holiadur. Gofynnwch am gopi drwy e-bostio: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk Gellir dychwelyd holiaduron wedi'u cwblhau yn rhad ac am ddim i: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Abertawe, SA1 1ZL
Rhif Ffôn: I rannu barn neu ofyn am ragor o wybodaeth ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5), ar gyfraddau galwadau lleol.
Mynychu digwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein: Bydd tîm Hywel Dda yn darparu dogfennau ymgynghori a holiaduron, yn trafod yr opsiynau, yn ateb cwestiynau ac yn casglu adborth.
Mae digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys:
Dywedodd Mr Henwood: “Mae angen eich barn erbyn 31 Awst 2025, felly gwnewch amser i rannu eich meddyliau gyda ni neu cysylltwch â ni os oes angen mwy o help neu wybodaeth arnoch.”