Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad Uned Mân Anafiadau Llanelli

Bydd pobl yn gallu rhannu eu barn ar sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip, mewn ymgynghoriad cyhoeddus. 
 
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn cael ei gynnal o ddiwedd mis Ebrill neu ddechrau mis Mai, cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfarfod Bwrdd heddiw (dydd Iau). 
 
Mae'r Uned Mân Anafiadau, sy'n darparu triniaeth ar gyfer mân anafiadau megis briwiau, ysigiadau a mân losgiadau, wedi bod yn gweithredu gyda newid yn yr oriau agor, a hynny ers mis Tachwedd 2024. Mae hyn wedi golygu mai'r oriau agor yw 12 awr (8am-8pm), yn hytrach na 24/7, yn bennaf oherwydd pryderon staffio, ansawdd a diogelwch. 
 
Bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn ymgynghori â staff, y gymuned leol a rhanddeiliaid ar bedwar opsiwn arfaethedig ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.  
 
Dyma’r opsiynau:  
•    Opsiwn 1 – Dan arweiniad Meddyg, 12 awr (y model dros dro presennol) 
•    Opsiwn 2 – Dan arweiniad Meddyg, 14 awr 
•    Opsiwn 3 – Dan arweiniad Meddyg, model graddol (12 awr i ddechrau, gan gynyddu i 14 awr, yna i 24 awr fel y mae staffio yn caniatáu) 
•    Opsiwn 4 – Canolfan Gofal Brys (model math Gofal Brys yr Un Diwrnod) 14 awr 
 
Bydd pobl yn cael cyfle i rannu eu barn ar yr opsiynau arfaethedig a'r effeithiau y gallent eu cael, yn ogystal â chynnig opsiynau arall. 
 
Gwnaed y penderfyniad hwn i fynd i ymgynghoriad ffurfiol yn ystod cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus heddiw ac mae’n dilyn cyfres o weithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mynychwyd y gweithdai hyn gan staff cynrychioliadol, cleifion a grwpiau ymgyrchu.  
 
Bu iddynt ystyried rhestr hwy o 12 opsiwn a’u sgorio, yn seiliedig ar feini prawf megis diogelwch, cynaliadwyedd a ffocws cleifion, gan arwain at bedwar opsiwn ar gyfer ymgynghori. 
 
Mae Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro, yn annog y gymuned i gymryd rhan;   
 
“Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i bobl Llanelli, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu ateb sy’n diwallu anghenion y gymuned tra’n sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel. Rydym am gydweithio i wneud y penderfyniad cywir. Bydd eich cyfranogiad yn amhrisiadwy i’n helpu i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer y dyfodol.”    
Yn y cyfamser, bydd oriau agor dros dro presennol yn yr Uned Mân Anafiadau, sef 8.00am-8.00pm, yn parhau. Os ydych chi'n byw yn Llanelli, yn agos at y dref, neu'n ymweld, ac yn cael mân anaf yn ystod y dydd, gallwch barhau i gerdded i mewn i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip. 
 
Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yr ysbyty. Mae'n dal i ddarparu triniaeth 24 awr y dydd i gleifion meddygol sâl iawn sy'n oedolion, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon. Rhaid cael mynediad at y gwasanaeth trwy 999, 111 neu atgyfeiriad gan Feddyg Teulu.   
 
Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch: 
 

 
Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y dyddiad lansio, a lleoliad digwyddiadau cymunedol, yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalen Uned Mân Anafiadau yma (agor mewn dolen newydd). 
 
Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu i gyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2025. Ar ôl ystyried yr ymgynghoriad a’i ganfyddiadau’n gydwybodol, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth a thystiolaeth a gasglwyd cyn gwneud penderfyniad terfynol, i’w ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2025.  
 
Ychwanegodd Mr Henwood: “Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod darpariaeth yn yr Uned Mân Anafiadau yn y dyfodol yn darparu gofal diogel, cynaliadwy a theg i’r gymuned.”