Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Tywysog Philip - Uned Mân Anafiadau

 

 

Newidiadau dros dro i oriau agor

O ddydd Gwener 1 Tachwedd 2024, am gyfnod o chwe mis, bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip ar agor o 8.00am tan 8.00pm, saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r newid dros dro i oriau agor, sy'n effeithio ar yr Uned Mân Anafiadau yn unig, wedi'i roi ar waith i ddiogelu cleifion a staff oherwydd nad oes gan yr Uned Mân Anafiadau’r meddygon teulu priodol yn eu lle gyda'r nos a thros nos.
 

Beth i wneud os oes gennych fân anaf

Os ydych chi'n byw yn Llanelli, yn agos i’r dre neu'n ymweld â’r ardal, ac yn dioddef mân anaf yn ystod y dydd (rhwng 8.00am ac 8.00pm), gallwch barhau i ddod i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip are ich liwt eich hun.

Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch:

Mewn argyfwng lle mae bywyd oedolyn, person ifanc neu blentyn yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser.

Dolenni defnyddiol eraill

Gallwch ddarllen mwy am ystod ein gwasanaethau ar y dudalen we gofal brys (agor mewn dolen newydd)

Gallwch hefyd ddarllen mwy ar ein tudalen we uned mân anafiadau (agor mewn dolen newydd)

Ar gyfer anghenion iechyd plant ac ieuenctid, gallwch ddarllen mwy ar ein tudalen we iechyd plant (agor mewn dolen newydd)

Datganiadau i'r wasg:

14/10/24 - Digwyddiad galw heibio i gael gwybodaeth am Uned Mân Anafiadau Llanelli (agor mewn dolen newydd)

26/09/24 - Bwrdd yn cytuno i gau'r Uned Mân Anafiadau yn Llanelli dros nos (agor mewn dolen newydd)

20/09/24 - Y Bwrdd i drafod cau Uned Mân Anafiadau dros nos dros dro (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: