Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar wasanaethau strôc yn cyrraedd hanner ffordd – cofiwch ddweud eich dweud

Mae ail gam ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddyfodol gwasanaethau strôc wedi cyrraedd hanner ffordd y cyfnod ymgynghori wyth wythnos. Mae'r Bwrdd Iechyd yn diolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan ac mae'n annog pobl nad ydynt wedi ymateb eto i rannu eu barn drwy fynychu digwyddiad neu lenwi'r holiadur.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn gan gleifion, gofalwyr, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid ar opsiwn a ffefrir ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc ledled Hywel Dda. Datblygwyd yr opsiwn a ffefrir o adborth a gasglwyd yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn 2025 fel rhan o'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Ar hyn o bryd, darperir gwasanaethau strôc ym mhob un o'r pedwar prif ysbyty yn Hywel Dda – Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson ac nid oes staffio strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r opsiwn a ffefrir y mae'r Bwrdd Iechyd yn ceisio barn arno yn cynnwys:

  • Uned strôc acíwt ac adsefydlu 24 awr yn Ysbyty Glangwili
  • Uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais
  • Gwasanaethau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg

Eglurodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwasanaethau strôc i'n cymunedau ac i'n staff.

"Mae darparu gofal arbenigol amserol, o ansawdd uchel i bobl sy'n profi strôc yn hanfodol. Mae gofal strôc wedi datblygu'n sylweddol, a dengys tystiolaeth bod cleifion yn cael canlyniadau gwell mewn unedau arbenigol gyda mynediad at dimau ac offer arbenigol drwy’r dydd, bob dydd.

"Rydyn ni'n gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, ac mae'r adborth hwn yn bwysig i'n helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i'n cymunedau. Diolch i bawb sydd eisoes wedi mynychu ein digwyddiadau ymgysylltu – wyneb yn wyneb ac ar-lein. Edrychwn ymlaen at siarad â mwy o bobl cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 26 Gorffennaf 2026."

Ers lansio ail gam yr ymgynghoriad ar 28 Mai 2026, mae mwy na 1700 o bobl wedi cymryd rhan drwy sgyrsiau mewn digwyddiadau a thrwy lenwi'r holiadur.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: "Rydym wedi bod yn cwrdd â staff a chymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, a chynrychiolwyr o ardaloedd y byrddau iechyd cyfagos, yn ogystal ag mewn sesiynau ar-lein.

"Mae pobl wedi gofyn ble y byddent yn mynd am ddiagnosis a thriniaeth, sut y byddai trosglwyddiadau rhwng ysbytai yn gweithio, a pham na all gwasanaethau strôc barhau fel y maent ar draws pob un o'r pedwar safle ysbyty.

"Mae'n bwysig rhoi sicrwydd i bobl, nawr ac i’r dyfodol, os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn cael strôc, y dylech ofyn am gymorth yn ddi-oed trwy ffonio 999. Fel sy'n digwydd heddiw, a gydag unrhyw opsiwn yn y dyfodol, byddant yn cael eu cludo i'r ysbyty priodol agosaf ar gyfer asesu a thriniaeth cychwynnol. Os oes angen triniaeth arbenigol fel thrombectomi, byddai cleifion yn parhau i gael eu trosglwyddo i ganolfannau arbenigol ym Mryste neu Gaerdydd.

"Drwy gydol y broses hon rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a darparwyr eraill fel y Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion a chomisiynwyr cenedlaethol. Unwaith y bydd opsiwn ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc yn cael ei ddewis, bydd modelu manwl yn digwydd i ddeall pa drefniadau trafnidiaeth pwrpasol fydd eu hangen, felly ni fyddai hyn yn effeithio ar argaeledd ambiwlans brys.

"Mae angen i ni wneud newidiadau i sicrhau ein bod yn bodloni safonau cenedlaethol ac yn gallu darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Mae angen i ni roi'r cyfle gorau posib i bobl wella ar ôl effeithiau dinistriol strôc."

Gyda'r ymgynghoriad ar agor tan 26 Gorffennaf, mae'r Bwrdd Iechyd yn annog pobl i gymryd rhan a helpu i lunio gwasanaethau strôc i’r dyfodol.

Dyma'r cyfleoedd sydd ar ddod i gymryd rhan:

Digwyddiadau galw heibio:

  • Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Y Plas, Machynlleth SY20 8ER
  • Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Canolfan Creuddyn, Llanbedr Pont Steffan SA48 7BN
  • Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Neuadd Pater, Doc Penfro SA72 6DD
  • Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Gwesty'r Ivy Bush, Caerfyrddin, SA31 1LG

Sesiwn ar-lein: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf am 6:30pm

Mae croeso i bawb fynychu i ddysgu mwy, i ofyn cwestiynau ac i rannu barn.

Bydd yr holl adborth a ddaw i law o'r cam hwn o'r ymgynghoriad, ochr yn ochr â'r safbwyntiau a gasglwyd yn 2025, a'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr holiadur, ar gael ar wefan yr ymgynghoriad: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc/ (yn agor mewn tab newydd) 

Fel arall, gall pobl gysylltu â'r tîm drwy e-bost yn hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5, pris galwad leol).