Neidio i'r prif gynnwy

Ymestyn asesiadau digidol i gleifion Offthalmoleg

Yn ogystal â’n Gwasanaeth Gweithrediad y Galon, bellach gall cleifion Offthalmoleg addas ddefnyddio Asesiadau Digidol i roi diweddariad ar eu hiechyd i’w timau iechyd rhwng apwyntiadau.

Bydd cleifion sydd â dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig â henaint (AMD) yn cael neges testun neu ebost gyda dolen at ffurflen Asesiad Digidol i ateb cwestiynau ar symptomau, iechyd corfforol ac ansawdd bywyd.

Bydd tîm meddygol y claf yn medru adolygu’r wybodaeth ar y ffurflen Asesiad Digidol, gan eu galluogi i wirio cynnydd a deall iechyd y claf rhwng apwyntidadau.

Mae'r ddolen nhs.my yn y neges destun a'r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei ddarparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi'i achredu i'r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer amddiffyn gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio'n ddiogel y eich cofnod claf.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn llwyddiant hyn gyda chleifion sy’n cael gofal ein Gwasanaeth Gweithrediad y Galon, rydym yn hapus o allu ymestyn y gwasanaeth hawdd ei ddefnyddio hyn i’n Gwasanaethau Gofal Llygaid.

“Nid yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal meddygol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy'r platfform diogel hwn yn monitro symptomau gartref yn rheolaidd i'n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o'r amser a dreulir gyda'ch tîm clinigol.”

Os ydy eich meddyg neu nyrs wedi nodi bod unigolyn yn addas i ddefnyddio Asesiadau Digidol, bydd yn cael neges testun neu ebost yn gofyn am lenwi ffurflen ar-lein rhwng apwyntiadau.

Mae'n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol, enw llawn, cod post, dyddiad geni a chyfeiriad e-bost cywir fel y gallwch fewngofnodi i lenwi'ch ffurflen ar-lein. Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, ffoniwch ni ar 0300 303 9642.