Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn annog rhieni i wirio statws brechu eu plant yn dilyn achosion o meningitis yn y DU

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

19 Mawrth 2026

Mae Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, yn annog rhieni a gofalwyr i wirio bod brechiadau eu plant yn gyfredol, yn dilyn yr achosion o meningitis a ddatganwyd yn ddiweddar yn y DU.

"Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag salwch difrifol.

Mae sicrhau bod eich plentyn wedi'i frechu'n llawn nid yn unig yn amddiffyn ei iechyd ond hefyd yn helpu i atal lledaeniad heintiau yn ein cymunedau.

Rwy'n annog pob rhiant a gofalwr i wirio statws brechu eu plentyn ac os ydych chi'n pryderu bod eich plentyn wedi colli eu brechiadau arferol, siaradwch â'ch meddyg teulu."

Mae clefyd meningococol yn haint difrifol, sy'n peryglu bywyd a all arwain at meningitis neu septisemia. Er bod y mwyafrif yn gwella, mae’n gadael cymhlethdodau corfforol, niwrolegol neu seicolegol hirdymor i nifer sylweddol o bobl. Yn anffodus, gall tua 1 o bob 10 achos fod yn angheuol.

Gall y clefyd effeithio ar unrhyw un, ond babanod, plant ifanc, pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd â'r risg uchaf.

Yng Nghymru, cynigir brechlynnau sy'n amddiffyn rhag sawl math o facteria meningococol, gan gynnwys mathau A, B C, W ac Y, fel rhan o raglen imiwneiddio arferol y GIG ar gyfer babanod (meningococol math B (agor mewn dolen newydd)) a phobl ifanc yn eu harddegau (meningococol mathau ACW ac Y (agor mewn dolen newydd)).

Mae adroddiad cwmpas diweddaraf y Bwrdd Iechyd yn dangos cynnydd calonogol ond hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gweithredu parhaus. Ar hyn o bryd, 76.4% o bobl ifanc sy'n cyrraedd eu pen-blwydd yn 16 oed sydd wedi cael y brechlyn MenACWY, sy'n golygu bod llawer o'n rhai sydd nesaf i adael yr ysgol yn parhau i fod heb eu hamddiffyn.

Ar gyfer plant iau, mae'r brechlyn MenB ar lefelau uwch ond nid yw'n cyrraedd y 95% a argymhellir, gyda

  • 92.8% o fabanod wedi'u brechu erbyn eu pen-blwydd cyntaf
  • 91.8% erbyn eu hail ben-blwydd

Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad teuluoedd a thimau gofal sylfaenol, ac rydym yn annog rhieni i gynnal y momentwm hwn trwy wirio bod yr holl ddosau wedi'u derbyn yn ôl yr amserlen.

Rydym yn annog teuluoedd i wneud y canlynol:

  • Gwiriwch gofnod brechu eich plentyn drwy gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 1), e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk neu drwy lenwi'r ffurflen hon: https://forms.office.com/e/wWLTziGQNk (agor mewn dolen newydd)
  • Cysylltwch â'ch meddyg teulu os oes unrhyw ddosau wedi'u colli
  • Gwnewch yn siŵr bod eich babi yn cael eu brechiadau MenB – gallwch ddarganfod pryd mae'r rhain yn cael eu cynnig ar y map ffordd brechu isod.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plant sydd y neu harddegau yn cael eu pigiadau atgyfnerthu MenACWY a 3mewn1 – mae'r rhaglen hon yn  cael ei chyflwyno mewn ysgolion ar hyn o bryd gan ein tîm Nyrsio Ysgolion. Am ddyddiadau a lleoliadau, ewch i'n tudalen we bwrpasol https://biphdd.gig.cymru/imiwneiddiadau nyrsio ysgol (agor mewn dolen newydd)
  • Byddwch yn wyliadwrus i symptomau llid yr ymennydd a septisemia a gofynnwch am gyngor meddygol brys os ydych yn pryderu. Mae rhagor o wybodaeth am arwyddion a symptomau ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.

Os hoffech drefnu cyfweliad gyda rhywun o dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, cysylltwch â'r tîm cyfathrebu ar MediaOffice.Hyweldda@wales.nhs.uk neu 07464 523370.