Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos olaf i rannu eich barn ar yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

22 Awst 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ysbyty ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mai ychydig dros wythnos sydd ar ôl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Bydd yr ymgynghoriad tair wythnos ar ddeg a hanner, a lansiwyd ar 29 Mai 2025, yn cau ddydd Sul 31 Awst 2025.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog unrhyw un sydd heb gymryd rhan eto i gwblhau'r holiadur neu gysylltu i rannu eu barn. Mae digwyddiad ar-lein ychwanegol wedi'i drefnu i roi cyfle i ofyn cwestiynau am y Cynllun Gwasanaethau Clingol Ddydd Mercher 27 Awst, rhwng 7pm ac 8pm. Cofrestrwch am eich lle: https://forms.office.com/e/hYRTfAcqbq (agor mewn tab newydd)

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth gofal iechyd allweddol: gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg, a sut y gellid eu darparu yn y dyfodol ar draws ysbytai a lleoliadau cymunedol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Rydym wedi cael nifer fawr o ymatebion hyd yn hyn, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu barn.”

“Nid oes unrhyw opsiynau a ffefrir yn yr ymgynghoriad hwn, ac rydym yn croesawu eich adborth i gyd. Rydym hefyd yn eich gwahodd i awgrymu syniadau amgen neu opsiynau newydd ar gyfer y gwasanaethau o fewn y cwmpas. Os hoffech gymryd rhan mewn trafodaeth, a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol, ymunwch â ni yn ein digwyddiad ar-lein sydd i ddod.”

Mae dros 2,000 o bobl wedi ymateb i'r holiadur hyd yn hyn. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynnal sesiynau galw heibio, cyfarfodydd ar-lein a thrafodaethau cymunedol, gyda digwyddiadau ychwanegol wedi’u hychwanegu mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd.

I gymryd rhan cyn 31 Awst:

Mae gwybodaeth ar gael mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch ar dudalennau gwe ymgynghoriad y Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol (agor mewn tab newydd)

Cymerwch amser i rannu eich barn.