27/01/2022
Llongyfarchiadau i Nicola Treharne a enillodd y Wobr Gweithiwr Cefnogi Nyrsio yng Ngwobrau Nyrsio’r RCN 2021.
Cyflwynwyd y wobr i Weithiwr Cymorth Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ei hymdrechion i gefnogi menywod ar ôl geni.
“Roeddwn wrth fy modd i gael fy enwebu am y wobr hon ac yn fwy balch o ennill y clod arbennig. Rwy’n gweithio gyda grŵp ysbrydoledig o bobl, sef fy nghydweithwyr a’r teuluoedd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol.
“Mae codi ymwybyddiaeth a chefnogi unigolion o fewn y cyfnod amenedigol ar eu taith iechyd meddwl bob amser wedi bod o bwysigrwydd mawr i mi a’r Tîm Amenedigol”
Yn ei rôl, mae Nicola wedi datblygu’n sylweddol yr ymyriadau a gynigir a’r cymorth a roddir i fenywod, gan gysylltu â gweithwyr cymorth amenedigol eraill i ehangu’r glasbrint ar gyfer gofal pellach.
Mae ei hymyriadau’n cynnwys llesiant emosiynol, amcanion gweinyddes feithrin o ymolchi a diddyfnu, hyfforddiant cysgu, sgiliau ymarferol, gwybodaeth diogelwch ar gyfer y cartref, bondio, ac ymlyniad.
Dysgodd sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio a chafodd hyfforddiant pellach fel y gallai wella'r ymlyniad a'r cwlwm rhwng y fam a'r babi gan ddefnyddio tylino babanod y mae'n ei ddysgu yn y cyfnod cyn geni ac ar ôl i'r babi gael ei eni.
Mae Nicola wedi bod yn ei rôl bresennol ers 2019, ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i gwrs Ymarferydd Cynorthwyol, y mae’n gobeithio ei gwblhau yn haf 2022.
Cyn hynny bu Nicola yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel gweithiwr cymorth yn y gymuned ac mae wedi hyfforddi fel Nyrs Feithrin.
“Y rheswm pam y gwnes ymgeisio am fy rôl bresennol oedd er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o weithio’n gyfannol gyda theuluoedd, gan eu cefnogi nhw a’u hanghenion iechyd meddwl,” ychwanegodd.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Llongyfarchiadau mawr i Nicola, mae hi’n wirioneddol iawn o’r wobr hon. Mae ei hymdrechion i gefnogi merched a chodi ymwybyddiaeth ar ôl geni a chodi ymwybyddiaeth o gwmpas y cyfnod ôl-enedigol i’w ganmol.”