Neidio i'r prif gynnwy

Ward famolaeth gwerth miliynau o bunnoedd yn agor i groesawu babanod newydd-anedig

29 Mawrth 2022

Mae ward esgor newydd ar gyfer gorllewin Cymru wedi agor ei drysau yn barod i groesawu babanod i'r byd.

Mae'r uned newydd yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn rhan o fuddsoddiad o £25.2m gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2018 gan y Gweinidog Iechyd blaenorol. Mae'r datblygiad newydd wedi creu cyfleusterau obstetrig a newyddenedigol newydd yn yr ysbyty.

Dyma'r ail ddatblygiad mawr yn y cynllun yn dilyn agor uned gofal arbennig i fabanod (agor mewn dolen newydd) newydd yn gynharach eleni.

Mae’r uned o’r radd flaenaf, sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol gyda’r ffocws ar y babi a’i deulu, a’r tîm bydwreigiaeth, yn cynnwys:

  • Pum ystafell eni safonol gydag en-suite
  • Un ystafell eni gyda phwll sefydlog
  • Un ystafell eni sydd â chyfarpar i ddelio â genedigaethau lluosog neu gymhleth
  • Uned Fonitro Uwch chwe gwely

Mae'r man clinigol yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y teulu.

Bydd yr ardal glinigol a'r cyfleusterau staff yn gwella'r amgylchedd gwaith ar gyfer y tîm bydwreigiaeth a bydd o fudd i'w lles. Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys ardal briodol ar gyfer addysgu a gweithio amlddisgyblaethol; sydd i fod ar gael unwaith y bydd gwaith y Theatrau wedi'i gwblhau.

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu’r ward famolaeth fodern hon a fydd yn darparu gofal pwysig. Bydd y ward o fudd mawr i deuluoedd a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth a’r staff a fydd yn darparu gofal yn y cyfleusterau diweddaraf hyn.”


Diolchodd Steve Moore, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i bawb a gymerodd ran yn y prosiect: “Mae’n wych gweld ein ward esgor newydd ar agor i fabanod a’u teuluoedd.

“Mae’r cyfleusterau gwell yn rhan o’n buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau menywod a phlant a bydd yn darparu amgylchedd modern i fabanod ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn am eu hymroddiad a’u gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i chi gyd.”

 

Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Gwasanaethau Merched a Phlant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fel cyfarwyddwr y prosiect hoffwn ddiolch i’r holl rieni, staff a’r contractwyr am eu cyfraniad at gyflawni’r cynllun hwn.

“Mae cael uned gyfoes yn gwella’r gofal o ansawdd uchel y mae’r tîm eisoes yn ei ddarparu mewn amgylchedd sy’n gwella llesiant babanod, eu teuluoedd a staff.”
 

Ychwanegodd Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd newydd ei phenodi: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â’r tîm ar adeg mor gyffrous. Y tîm sydd wedi gweithio mor galed ac wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i greu'r amgylchedd geni gorau posibl ar gyfer menywod, pobl sy'n geni a theuluoedd.

“Mae’r effaith ar gleifion a staff mamolaeth yn anfesuradwy ac mae’r llawenydd ar wynebau’r rhai sydd wedi bod yn cefnogi symud i’r amgylchedd newydd wedi bod yn ddim llai na dyrchafol i bawb.

“Mae creu’r amgylchedd geni gorau posibl yn dangos buddsoddiad gwirioneddol mewn sicrhau’r dechrau gorau mewn bywydau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a diogelwch a diogelu ein gwasanaethau at y dyfodol er mwyn darparu safonau uchel o ofal.”

Disgwylir i gam olaf y prosiect, a fydd yn gweld agor theatrau newydd, gael ei gwblhau yn gynnar yn 2023.

I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i: https://biphdd.gig.cymru/ (agor mewn dolen newydd)