Neidio i'r prif gynnwy

Uned Gofal Brys Un Diwrnod yn ailagor yng Nglangwili

25 Mawrth 2026

Bydd yr uned GBUD (Gofal Brys yr Un Diwrnod) yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn ailagor i gleifion a staff ddydd Llun, 30 Mawrth.

Mae gwaith adnewyddu mawr wedi digwydd ar y safle diolch i fwy na £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Gwariwyd yr arian i ddarparu mwy o ystafelloedd ymgynghori, gwell derbynfa, ac amgylchedd mwy dymunol i gleifion a staff.

Disgwylir y bydd yr GBUD newydd yn lleihau'r pwysau ar yr Adran Achosion Brys yng Nglangwili ac mae'n rhan o ymdrechion parhaus i wella profiad cleifion ar draws safleoedd ysbytai acíwt a'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Keith Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol a Pherfformiad Hywel Dda: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyllid o £2.096 miliwn sydd wedi ein galluogi i gynyddu capasiti'r GBUD yng Nglangwili.

"Rydym yn rhagweld y bydd yr adnewyddiadau yn GBUD nawr yn helpu i leihau pwysau capasiti ar yr Adran Achosion Brys ac yn galluogi ein staff i ddarparu profiad llawer llyfnach a chyflymach i gleifion yn ein gofal."

Bydd gwasanaethau a symudwyd i'r Lolfa (Ward Padarn gynt) nawr yn symud yn ôl i adeilad GBUD. Mae'r rhain yn cynnwys y Lolfa Rhyddhau, yr Uned Ddydd Meddygol (yn Ysbyty Dydd y Priordy) a'r Gwasanaeth Gofal Sylfaenol y tu allan i oriau.

Bydd y llwybrau mynediad ar gyfer gwasanaethau a arhosodd yn Ysbyty Dydd y Priordy yn ystod y gwaith adnewyddu, niwro-adsefydlu, a therapi galwedigaethol bellach yn dychwelyd i normal.

Gall cleifion ac ymwelwyr ddilyn yr arwyddion parhaol, neu mae croeso iddynt ofyn i aelod o staff os oes angen help arnynt i ddod o hyd i'w clinig apwyntiad.

Ychwanegodd Keith Jones: "Hoffwn ddiolch i'r staff a phawb sy'n ymweld â'n safle am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y gwaith gwella.

"Bydd cleifion yn cael eu hysbysu am newidiadau a dychwelyd gwasanaethau i GBUD yn eu llythyrau apwyntiad. Byddwn yn dal i ofyn i gleifion sy'n mynychu unrhyw un o'r clinigau yr effeithir arnynt wirio eu llythyrau apwyntiad am wybodaeth am leoliad eu triniaeth. Os nad ydynt yn siŵr, gall cleifion hefyd ffonio'r adran ar y rhif yn eu llythyr apwyntiad."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

"Mae ein buddsoddiad o £2m yn darparu gwelliannau gwirioneddol i gleifion a staff yn Ysbyty Glangwili, gan ddarparu amgylchedd gwell a phrofiad llyfnach a chyflymach i'r rhai sydd angen gofal brys. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella safleoedd ysbytai yng Nghymru, gan sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn, cyn gynted â phosibl."

DIWEDD