Neidio i'r prif gynnwy

Tîm mamolaeth yn cipio prif wobr genedlaethol arall

Group of nurses and doctors in front of a sign which says winner

17 Tachwedd 2023

Mae tîm gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu unwaith eto, y tro hwn gyda buddugoliaeth yng Ngwobrau GIG Cymru 2023 yn y categori Gwella Diogelwch Cleifion.

Yn syth o’u buddugoliaeth yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ 2023 y mis diwethaf, cafodd y tîm eu gwobrwyo unwaith eto am eu hymdrechion i newid diwylliant y gweithle o amgylch digwyddiadau niweidiol mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.

Mae Gwobrau GIG Cymru yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i’r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy’n darparu gofal, a’r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Mae’n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig yn gweithio gyda’i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

Dywedodd y Pennaeth Bydwreigiaeth, Kathy Greaves “Mae derbyn ail wobr yn gydnabyddiaeth am yr holl waith caled ac ymroddiad y mae'r tîm hwn yn ei gynnig i'n hunedau mamolaeth.

“Mae sicrhau bod rhieni a staff yn ddiogel ac yn derbyn gofal yn hynod bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau’r profiad gorau posib tra yn ein gofal. Llongyfarchiadau i’r tîm cyfan.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n hynod falch o’r gwaith y mae’r tîm cyfan wedi’i wneud i newid diwylliant y gweithle o amgylch digwyddiadau niweidiol mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol a’r gydnabyddiaeth genedlaethol o'u hymdrechion yn gwbl haeddiannol. Diolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi chwarae eu rhan i ennill y wobr ddiweddaraf hon.”

Cyflwynwyd y wobr i’r tîm y tu ôl i’r prosiect buddugol mewn seremoni rithwir a fynychwyd gan y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o Gymru.