Llongyfarchiadau mawr i'r tîm Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) am gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd 2020 am eu gwaith ar y Prosiect Cymorth Cyflogaeth.
Mae'r Prosiect Cymorth Cyflogaeth wedi'i integreiddio o fewn y tîm EIP ac mae'n ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n anelu at helpu pobl i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant ac mae'n cael ei ddilyn gan gefnogaeth ddiderfyn i'r gweithiwr a'r cyflogwr.
Dywedodd Zena Bennett o’r Tîm EIP: “Y defnyddwyr gwasanaeth, y staff ymroddedig a’r gred gref bod gwaith ac addysg yn cael effaith gadarnhaol ar les pobl ifanc yw llwyddiant y prosiect. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein henwebu yng ngwobr ‘The Guardian am weithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl’, gan ein bod yn 1 o 3 yn rownd derfynol y DU ar gyfer y wobr. ”
Bydd y seremoni wobrwyo yn ddathliad rhithwir a gynhelir ar 16eg Hydref, 2020, ac yn arddangos arferion gofal iechyd arloesol blaenllaw ledled y DU.
Pob lwc i'r tîm EIP a llongyfarchiadau! #TîmHywelDda
* Llun wedi'i dynnu cyn bod mesurau pellhau cymdeithasol COVID ar waith *