Neidio i'r prif gynnwy

Teithiau breuddwydion i blant sy'n derbyn gofal lliniarol

Bydd pump ar hugain o deuluoedd â phlant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n bygwth bywyd yn mwynhau teithiau llawn hwyl naill ai i Bluestone neu Folly Farm.

Mae'r rhodd i deuluoedd plant sy'n derbyn gofal lliniarol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn bosibl diolch i £22,500 o gyllid gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, Cronfa Gofal Integredig.

Bydd pob teulu unigol yn cael balŵn enfawr mewn bocs sy'n cynnwys conffeti a balŵns llai a bydd yn foment arbennig iawn.

Yn eu plith mae teulu Tiara Davies, pedair oed, sy'n byw gyda'i rhieni a'i chwaer, Patricia, tair oed yng Nghaerfyrddin.

Mae Tiara yn dioddef o syndrom Marfan, anhwylder sy'n effeithio ar feinwe gyswllt y corff, sy'n darparu cefnogaeth i'r corff a'r organau.

Mae Tiara wedi bod yn derbyn gofal lliniarol ers dros ddwy flynedd. Fe’i cyfeiriwyd am drawsblaniad y galon yn 2018, ond yn anffodus roedd risg y llawdriniaeth yn rhy uchel, ac ni all meddygon roi amerlen ar gyfer ei bywyd.

Dywedodd tad Tiara, Jon Davies: “Mae’r teithiau hyn yn fendigedig. Mae Tiara yn gyffrous iawn, ac mae hi wedi bod yn pacio ei bagiau dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd gennym ychydig o deithiau wedi'u cynllunio cyn y cyfnod clo sydd i gyd wedi'u canslo, felly nid oeddem yn obeithiol iawn o deithio. Nawr mae'n bryd i ni fyw bywyd fel arfer eto.”

Teulu arall a gafodd sypreis oedd teulu Mark Abbott, 10 oed, sy'n byw ym Mhenfro gyda'i fam a'i bedair chwaer.

Cafodd Mark ddiagnosis o Ganser Rhabdomyosarcoma yn 2017, derbyniodd ddwy flynedd o gemotherapi a radiotherapi, ond yn anffodus, fe ddychwelodd yn ddiweddarach.

Dywedodd mam Mark, Sharon Haynes: “Pan rydych chi wedi bod trwy siwrnai anodd, mae’n anodd treulio amser braf fel teulu. Mae'n braf cymryd seibiant o'r difrifoldeb a chael hwyl, yn enwedig pan nad ydych chi'n siŵr pa mor hir sydd gennych ar ôl i wneud atgofion gyda'ch plentyn. Mae Mark mor hapus, yn bennaf am allu mynd i nofio, rhywbeth nad yw wedi gallu ei wneud cyhyd oherwydd triniaeth.”

Mae Bluestone wedi cynnig teithiau penagored i deuluoedd, tra bod Fferm Folly wedi darparu estyniad o ddwy flynedd i'r tripiau. Mae gan y ddau leoliad warant COVID-19 hefyd sy'n golygu y gallwch drosglwyddo eich dyddiadau gwyliau yn rhad ac am ddim yn amodol ar gyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Pediatregydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Kathryn Lewis: “Rydyn ni'n gweithio gyda phlant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n peryglu bywyd a'u teuluoedd. Mae'r heriau hyn yn cael eu hwynebu o ddydd i ddydd ac yn dod â llawer o straen i'r teuluoedd. Mae tripiau dydd a gwyliau egwyl byr fel hyn yn rhoi seibiant i'r teuluoedd o'r heriau beunyddiol hyn ac yn cynnig seibiant mawr ei angen.

“Mae’r teithiau hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Gall y teuluoedd rannu amser braf gyda'i gilydd a chyfle i fondio. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r teuluoedd gwrdd â theuluoedd eraill sy'n wynebu'r un heriau, a all hyrwyddo cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymorth mewn awyrgylch hamddenol. "