Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am estyn diolch ir gwasanaeth gofal sylfaenol am yr ymrwymiad a'r egni a ddangosir gan feddygfeydd teulu, sydd bron â chwblhau cynnig ail ddos i bob claf sydd wedi'i frechu yn eu practis meddyg teulu. Ymunodd pob un o'r 48 meddygfa ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gyflawni'r rhaglen, gan ymrwymo i gyflwyno'r rhaglen i rai grwpiau blaenoriaeth JCVI. O'r holl ddosau a roddwyd hyd yma yn y tair sir, mae bron i 212,000 o frechlynnau (51%)…