Neidio i'r prif gynnwy

Staff GIG lleol yn dathlu llwyddiant gwobrau

6 Ionawr 2023

Mae staff o bob rhan o ofal iechyd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i’w llongyfarch ar nifer o lwyddiannau gwobrau yn nigwyddiad gwobrau Cymeradwyaeth Hywel eleni.

I gydnabod llwyddiannau, cyflawniadau a chyfraniad ei staff, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddigwyddiad gwobrau rhithwir ar 7 Rhagfyr 2022. Enwebwyd staff ar gyfer gwobrau ar draws ystod o gategorïau gan eu cydweithwyr a rhoddwyd y rhestr fer gan baneli staff annibynnol gan gynnwys cynrychiolwyr undebau llafur. Cyhoeddwyd yr enillwyr yn y digwyddiad rhithwir, a oedd hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru a neges fer gan seren rygbi Cymru, Shane Williams.

Daeth y Prif Weithredwr Steve Moore â’r digwyddiad i ben drwy ddweud: “Mae’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw bob dydd yn y system iechyd a gofal yn wirioneddol ryfeddol. Rwy’n hynod falch o’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a gydnabyddir yn y gwobrau hyn am eu cyfraniad at gefnogi a darparu gwasanaethau i’n poblogaeth leol. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud.”


Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr oedd:

Gwobr Byw ein Gwerthoedd:

  • Enillydd: Nyrsys Cyswllt Tramor am eu hymrwymiad i ymgorffori gwerthoedd sefydliadol y bwrdd iechyd ar bob lefel.
  • Ail safle: Ward Gwenllian, Ysbyty Bronglais a'r Tîm Brechu yng Nghaerfyrddin.

Gwobr Defnydd Gorau o’r Gymraeg

  • Enillydd: Karen Shearsmith-Farthing, Arweinydd Dementia Therapi Galwedigaethol am gyflwyno fersiwn Gymraeg o’r rhaglen ‘the journey through dementia’.
  • Yn ail: Georgina Kersey Swyddog Addysg a Datblygu a Swyddog Datblygu Cyfathrebu Non Elias.

Gwobr Ymarfer Arloesol ac Ysbrydoledig

  • Enillydd: Dr Savita Shanbhag Arweinydd Canser Meddyg Teulu am ei datblygiad a’i pheilot o LUMEN, gwasanaeth sgrinio ffôn arloesol dan arweiniad nyrs ar gyfer asesu symptomau canser yr ysgyfaint.
  • Yn ail: Grŵp Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc, a Therapyddion Iaith a Lleferydd Libby Jefferies a Mererid Davies.

Gwobr Cydweithiwr Cefnogol.

  • Enillwyr: Joanne Phillips Nyrs Gymunedol, a Susan Griffiths Uwch Reolwr Ffisiotherapi am fod yno bob amser i helpu a chefnogi cydweithwyr, gan gael effaith gadarnhaol ar ddiwrnod eu cydweithwyr
  • Yn ail: Angela Watkins, Swyddog Cyngor Cleifion a Gwasanaethau Cyswllt, a Catherine Bowdler Nyrs yn Ysbyty Dydd Gerontoleg.

Gwobr Llais y Claf:

  • Enillydd: Jasmine Raymond Nyrs o Ysbyty Llwynhelyg am fod yn groesawgar a sicrhau bod teuluoedd yn ymdopi tra roedd eu hanwylyd yn ei gofal.
  • Yn ail: Ward Teifi yn Ysbyty Glangwili a Ward 5 yn Ysbyty Tywysog Philip.

Gwobr Seren y Dyfodol:

  • Enillydd: Amelia Davies Nyrs Iechyd Plant Cymunedol yn Dechrau'n Deg Pennar am rymuso, meithrin hyder y teuluoedd y mae'n eu cefnogi.
  • Yn ail: Catherine Regola Prif Nyrs, Uned Gofal Arbennig i Fabanod, Ysbyty Glangwili, Claire Phelps, Ymarferydd Cynorthwyol yng Nghanolfan Iechyd Doc Penfro, a Rheolwr Prosiect Colette Lloyd, Teledermosgopi yn Ysbyty Llwynhelyg.

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn:

  • Enillydd: Heledd Lloyd Gwirfoddolwraig yn Ysbyty Bronglais am ei rôl fel cyfaill, cefnogi’r adran cleifion allanol, ac am fentora gwirfoddolwyr newydd.
  • Yn ail: Gwirfoddolwyr y Ganolfan Brechu Torfol, a Thiwtor Gwirfoddol Penny Randell.

Gwobr Arwr Tawel:

  • Enillwyr: Jo Rudd, Ymarferydd Cynorthwyol Ymwelwyr Iechyd yn Ysbyty Tywysog Philip am yr effaith gadarnhaol ar ymwelwyr iechyd o ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a Lynsey Ponsonby-Lewes, Ymarferydd Cynorthwyol yn yr Uned Gofal Dyddiol Pediatrig (PACU) am fod yn enghraifft ddisglair o ddeall pwysau ac annog eraill.
  • Yn ail: Alys Thomas, Cynorthwyydd Personol Pennaeth Pobl ac Effeithiolrwydd Sefydliadol, Euryl Howells, Caplan Ysbyty Glangwili, Jan Calford, gweithiwr domestig yn Nhŷ Bryngwyn a Natalie Rees, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Ysbyty Llwynhelyg.


Gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant:

  • Enillydd: Augusta Stafford-Umughele, Rheolwr Gweithlu, Amrywiaeth a Chynhwysiant am weithio’n ddiflino i geisio datrys problemau i lawer o weithwyr ar draws y bwrdd iechyd.
  • Yn ail: Beverly Davies, Rheolwr Partneriaeth Strategol a Chynhwysiant, a Dr Tipswalo, Meddyg Dydd yn Ysbyty Glangwili.


Gwobr Llesiant:

  • Enillydd: Leony Davies, Arweinydd Ymyrraeth Iechyd, Therapi Galwedigaethol am ei gwaith fel aelod sefydlu a gyrrwr y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Llesiant.
  • Yn ail: Carly Butler a Catherine Ruff, Ysgrifennydd Tîm a Chynghorydd Gweithlu yn Ysbyty Bronglais a Jennifer Pearce, Bydwraig yn Ysbyty Glangwili.

Gwobr Cyflawniad Oes:

  • Enillydd: Buddug Roberts, Nyrs yn Ysbyty Llwynhelyg sydd wedi rhoi dros 50 mlynedd o wasanaeth i gleifion a’r bwrdd iechyd.
  • Yn ail: Karen Jones, Uwch Nyrs, Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili, a Liz Duffy, Swyddog Cymorth Gwybodaeth Canser Macmillan yn Ysbyty Glangwili.

I weld y digwyddiad gwobrau cliciwch yma: Hywel's Applause 2022 - YouTube (agor yn dolen newydd).