Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu canolfannau brechu cymunedol dros dro i helpu pobl i gael eu brechlynnau ffliw a COVID-19

31 Rhagfyr 2024

Mae pobl sy’n gymwys i gael y brechlyn ffliw a/neu COVID-19 yn cael eu hannog yn gryf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w cael cyn gynted â phosib gan fod salwch anadlol firaol yn cylchredeg mewn cymunedau ac ysbytai lleol

Mae ffliw a COVID-19 yn cael eu hachosi gan firysau sy’n lledaenu’n hawdd iawn a gallant achosi i rai pobl fynd yn ddifrifol wael. Mae pobl hŷn a phlant ifanc, yn ogystal â rhai â chyflyrau iechyd penodol, mewn mwy o berygl.

I weld a ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn ffliw neu/neu COVID-19, ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlyn-ffliw-a-phigiad-hydref-covid-19/ (agor mewn dolen newydd) neu cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 neu yn ask.hdd@wales.nhs.uk.

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch chi'n dal i gael y ffliw, ond mae'ch symptomau'n debygol o fod yn ysgafnach.

Mae brechlynnau ffliw a COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.