Neidio i'r prif gynnwy

Sandra yn ennill gwobr am ragoriaeth nyrsio

01 Tachwedd 2023

Mae Sandra Miles, Nyrs Arweiniol Datblygu Ymarfer Proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi’i henwi’n enillydd Gwobr Ragoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio (CNO).

Mae’r gwobrau hyn, a gyhoeddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Prif Swyddog Nyrsio eleni gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru Sue Tranka, yn dathlu’r cyfraniadau eithriadol a wneir i’r gweithlu nyrsio, gan ysbrydoli eraill, ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Cafodd Sandra, sy’n gweithio yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ei chydnabod am ei harbenigedd yn ystod ei 30 mlynedd mewn gofal critigol.

Mae Sandra yn cael ei pharchu’n fawr gan ei chydweithwyr ac yn dangos balchder mawr ym mhopeth a wna.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd bod ymroddiad, angerdd a brwdfrydedd Sandra i gefnogi datblygiad y gweithlu nyrsio a gofal critigol ehangach wedi cael ei gydnabod a’i wobrwyo trwy Wobr Ragoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio”