Neidio i'r prif gynnwy

Ros Jervis, Cyn-gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus

6 Mehefin 2022

Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhannu y bu farw Ros Jervis, ein Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus wnaeth ymddeol yn ddiweddar, a hynny yn ei chartref ar ddydd Gwener, 3 Mehefin.

Ymddeolodd Ros o Hywel Dda yn ddiweddar er mwyn ei galluogi i dreulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau, yn ei chartref ger Aberteifi, tra’n derbyn triniaeth ar gyfer ei salwch.

Bydd Ros yn cael ei chofio'n gynnes gan gydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd. Yn weithiwr brwd a phroffesiynol, roedd hi'n unigolyn hwyliog a oedd yn codi'r galon a dod â goleuni a llawenydd i unrhyw sefyllfa. Yn ddiolchgar am gefnogaeth ei chydweithwyr yn ystod ei thriniaeth, roedd hi'n aml yn tynnu coes yn ystod y misoedd diwethaf ei bod fel siopwr cudd i'r bwrdd iechyd – roedd ei hymroddiad i weld Hywel Dda yn llwyddo yn fytholwyrdd.

Ymunodd Ros â theulu Hywel Dda fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2017 ar ôl dal sawl swydd uwch ym maes iechyd cyhoeddus mewn awdurdodau lleol yn Lloegr, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yng Nghyngor Dinas Wolverhampton. Enillodd gyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn ei maes o weithio gydag ystod amrywiol o sefydliadau, gan gynnwys fel aelod gweithgar o Gyngor Cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus, lle'r oedd ganddi'r rôl arweiniol ar gyfer gwella dan arweiniad y sector.

Mae Hywel Dda wedi bod yn ffodus i elwa o'i harbenigedd dros y blynyddoedd. Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn ystod ei chyfnod gyda ni, mae Ros wedi bod yn arweinydd a chydweithiwr gwych, gan sicrhau ein bod wedi gallu datblygu'r weledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal, gydag arweinyddiaeth a phŵer ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dod o thu mewn ein cymunedau ein hunain bellach yn bosibilrwydd i'n trigolion, a hynny drwy strategaeth "cenedlaethau'r dyfodol yn byw bywydau iach". Gwyddom mai dyma oedd un o gyflawniadau balchaf Ros yn ei gyrfa.

“Arweiniodd Ros ni hefyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf i'n taro yn ystod ein hoes. Roedd Ros yn allweddol wrth sefydlu un o'r grwpiau ymateb cyntaf i ystyried sut y gallem baratoi ar gyfer COVID-19, ac nid oes amheuaeth gennym ein bod wedi gallu wynebu'r her hon ar sail gryfach oherwydd ei diwydrwydd a'i haberth bersonol yn y maes hwn.”

Dywedodd yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr: “Gwyddom y bydd unrhyw un a gafodd y pleser o weithio gyda Ros yn ei cholli'n fawr. Roedd hi'n llawer mwy na cydweithiwr i gynifer ohonom ac mae ein meddyliau gyda'i theulu, a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Mae Ros wedi gofyn i goed gael eu plannu er cof amdani, ac mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda'i theulu i drefnu hyn.

.