Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd Diogelwch - Peiriannau Pwysedd Llwybr Awyru Aml-lefel (PAP Aml-Lefel), Pwmp Aml Awyru (CPAP) a dyfeisiau awyru mecanyddol Philips

Fe'n gwnaed yn ymwybodol o broblemau gyda rhai peiriannau Pwysedd Llwybr Awyru Aml-lefel (PAP Aml-Lefel), Pwmp Aml Awyru (CPAP) a dyfeisiau awyru mecanyddol Philips.

Mae Philips Respironics UK wedi cyhoeddi Rhybudd Diogelwch. Mae'r rhybudd hwn yn dweud y gall rhan ewynnog y peiriant gael ei niweidio o dan rhai amodau. Cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn yn fyd-eang, felly nid yw'n benodol i'r DU yn unig.

Mae'r amodau hyn, y mae pob un ohonynt yn brin yn y DU, yn cynnwys:

  • Defnyddio'r dyfeisiau hyn mewn tymereddau uchel iawn
  • Defnyddio'r dyfeisiau hyn gyda lefelau lleithder uchel
  • Defnyddio hylif glanhau heb ei gymeradwyo ar y dyfeisiau hyn

Mae'r GIG wedi bod yn gweithio'n agos gyda Philips a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) sy'n gyfrifol am ddiogelwch cleifion. Ni adroddwyd unrhyw faterion diogelwch yn ymwneud â'r cynhyrchion hyn yn y DU. Ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol yn y DU mewn perthynas â'r dyfeisiau hyn i'r MHRA.

I'r rhan fwyaf o gleifion mae'r risg o beidio â defnyddio'r dyfeisiau hyn yn llawer mwy na'r risg o'r mater y mae Philips wedi'i nodi. Mae'r MHRA wedi cynghori y dylai cleifion barhau i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn.

Bydd angen symud rhai cleifion â rhai mathau prin iawn o asthma sy'n gysylltiedig ag isocyanadau i ddyfais arall. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch wybod i ni ar y cyfle cyntaf trwy rif y ganolfan orchymyn isod.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at yr Hysbysiad Diogelwch Maes trwy roi hidlydd aer ychwanegol i bob claf ar gyfer eu peiriant. Mae'r hidlydd ychwanegol hwn yn cael ei argymell gan y Bwrdd Iechyd ond nid yw'n orfodol.

Gellir casglu hidlwyr o'r adrannau Peirianneg Glinigol trwy apwyntiad yn unig (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8 - 4pm) yn y cyfeiriadau canlynol:

Adran Peirianneg Glinigol, Llyfrgell Offer, Ysbyty Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth SY23 1ER (FFONIWCH 01970 635926 i wneud apwyntiad)

Adran Peirianneg Glinigol, Llyfrgell offer, Ysbyty Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin SA31 2AF (FFONIWCH 01267 227793 i wneud apwyntiad)

Adran Peirianneg Glinigol, Llyfrgell Offer, Ysbyty Llwynhelyg, Fishguard Road, Hwlffordd SA61 2PZ (FFONIWCH 01437 773130 i wneud apwyntiad)

Adran Peirianneg Glinigol, Llyfrgell Offer, Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Llanelli SA14 8QF (FFONIWCH 01554 783866 i wneud apwyntiad)

Cysylltwch â ni ar rif canolfan orchymyn Hywel Dda: 0300 303 8322 (9-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) i gael mwy o wybodaeth. Dewiswch yr opsiwn priodol ar y llinell.