Ysmygu yw prif achos afiechyd y gellir ei atal yng Nghymru, ac amcangyfrifir ei fod yn cymryd bywydau dros 5,000 o bobl bob blwyddyn. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi ymgyrch StopiOctober ASH Cymru ym mis Hydref, y mis sy’n gweld miloedd o bobl ledled y DU yn rhoi’r gorau i ysmygu mewn ymdrech ar y cyd i ddod yn ddi-fwg.
Bydd rhoi’r gorau i smygu ym mis Hydref yn gam tuag at fywyd iachach i chi ac efallai hyd yn oed y rhai o’ch cwmpas. Mae ysmygu a mwg ail-law yn dal i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru.
Mae ymchwil wedi dangos bod ysmygwyr bum gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi am byth os gallant gyrraedd o leiaf 28 diwrnod yn ddi-fwg. Felly beth am ymuno â miloedd o ysmygwyr y DU i gymryd yr her 28 diwrnod?
Dywedodd Cath Einon o Dîm Ysmygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae manteision mawr o roi’r gorau i ysmygu, oherwydd mewn cyn lleied ag 8 awr gall lefelau carbon monocsid ysmygwr haneru. Ar ôl 24 awr o roi'r gorau iddi, mae carbon monocsid yn cael ei ddileu o'r corff ac mae'r ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws a malurion ysmygu. O fewn blwyddyn yn unig i roi'r gorau iddi, mae'r risg o drawiad ar y galon yn cael ei haneru o'i gymharu â'r risg o ysmygwr presennol. Ymhellach, ar ôl deng mlynedd mae’r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi’r gorau i smygu ym mis Hydref, mae cyngor a chymorth am ddim ar gael yn hawdd drwy wasanaeth Ysmygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ffonio 0300 303 9652, anfon e-bost at smoking.clinic@wales.nhs.uk neu lenwi’r ffurflen atgyfeirio ar-lein hon