Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar bedwar opsiwn ar gyfer dyfodol gofal mân anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei lansio ddydd Llun (28 Ebrill 2025).
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos tan 22 Gorffennaf 2025 gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y gymuned ac ar-lein. Bydd holiadur ar gael i bobl rannu eu barn yn ogystal â grwpiau ffocws a chyfarfodydd gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.
Mae'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn darparu triniaeth ar gyfer mân anafiadau fel briwiau, ysigiadau a mân losgiadau. Ers mis Tachwedd 2024, mae’r uned wedi bod yn gweithredu gydag oriau agor wedi'u newid dros dro. Yr oriau agor presennol yw 8am i 8pm bob dydd, yn hytrach na 24/7, a hynny yn bennaf oherwydd pryderon staffio, ansawdd a diogelwch.
O ddydd Llun ymlaen, bydd y Bwrdd Iechyd yn ymgynghori â staff, y gymuned leol a rhanddeiliaid ar bedwar opsiwn arfaethedig ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Dyma’r opsiynau:
* Bydd pob opsiwn sy’n llai na 24 awr hefyd yn cynnwys dwy awr ychwanegol o staffio i drin pobl sy’n mynychu’r uned tua diwedd yr oriau agor.
Bydd cyfle i bobl rannu eu barn ar yr opsiynau arfaethedig ac unrhyw effeithiau y gallent eu cael, yn ogystal â chynnig opsiynau amgen.
Mae Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro, yn annog y gymuned i gymryd rhan a rhannu eu barn:
“Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i bobl Llanelli, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu ateb sy’n diwallu anghenion y gymuned tra’n sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel. Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r gymuned, gan gynnwys SOSPPAN, sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r opsiynau yr ydym yn awr yn ceisio barn arnynt.
“Rydym am barhau i gydweithio i wneud y penderfyniad cywir a’r ffordd orau o wneud hyn yw i chi ddarllen am yr opsiynau, neu fynychu digwyddiad i ddarganfod mwy, ac yna llenwi’r holiadur a rhannu eich barn, neu wneud awgrymiadau eraill.”
Gall aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiadau galw heibio i ofyn unrhyw gwestiynau am yr opsiynau i staff y bwrdd iechyd, gan gynnwys clinigwyr, neu i gynnig syniadau newydd, a hynny dros baned o de.
Cynhelir digwyddiadau rhwng 3pm a 6pm (galw heibio unrhyw bryd) ar:
Cynhelir digwyddiadau ar-lein ar:
Gallwch ddarllen mwy a chofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein o ddydd Llun 28 Ebrill, pan fydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein yn biphdd.gig.cymru/UMAYTP (agor mewn dolen newydd) neu gallwch ffonio 0300 303 8322, opsiwn 5, pris galwad leol.
Mae'r ymgynghoriad yn dilyn ymgysylltu a datblygu opsiynau yn ystod y misoedd diwethaf gyda staff cynrychioliadol, cleifion a chynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys grwpiau ymgyrchu.
Ystyriwyd rhestr hwy o 12 opsiwn, a datblygwyd pedwar ohonynt gan randdeiliaid. Fe wnaethant eu sgorio yn erbyn meini prawf megis diogelwch, cynaliadwyedd a ffocws cleifion, gan arwain at bedwar opsiwn ar gyfer ymgynghori arnynt.
Yn y cyfamser, bydd yr oriau agor dros dro presennol yn yr Uned Mân Anafiadau, sef 8.00am-8.00pm, yn parhau. Os ydych chi'n byw yn Llanelli neu’r fro gyfagos, neu'n ymweld â’r ardal a bod gennych fân anaf yn ystod y dydd, gallwch barhau i gerdded i mewn i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.
Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch:
• gwiriwr symptomau GIG Cymru ar-lein GIG 111 Cymru - Gwirwyr Symptomau
• neu ffoniwch GIG 111 Cymru am gyngor (dewiswch opsiwn 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl)
Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, p’un a ydych yn oedolyn, yn berson ifanc neu’n blentyn, ffoniwch 999 bob amser.
Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yr ysbyty. Mae'n dal i ddarparu triniaeth 24 awr y dydd i gleifion meddygol sâl iawn sy'n oedolion, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon. Rhaid cael mynediad at y gwasanaeth trwy 999, 111 neu atgyfeiriad gan Feddyg Teulu.
Yn dilyn ystyriaeth gydwybodol o’r ymgynghoriad a’i ganfyddiadau, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth a thystiolaeth a gasglwyd cyn gwneud penderfyniad terfynol, a disgwylir i hyn ddigwydd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2025.
Ychwanegodd Mr Henwood: “Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod darpariaeth yr Uned Mân Anafiadau yn y dyfodol yn darparu gofal diogel, cynaliadwy a theg i’r gymuned.”