Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gelfyddydol i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn dychwelyd

10 Mehefin 2024

Mae rhaglen Hwb Celfyddydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a gynlluniwyd i leihau teimladau o drallod a gwella iechyd meddwl drwy’r celfyddydau, yn dychwelyd ar gyfer yr haf ac mae bellach ar agor ar gyfer atgyfeiriadau.

Wedi’i gynnig i blant a phobl ifanc 12-17 oed sy’n hysbys i’n Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae hwn yn gyfle i gysylltu drwy greadigrwydd.

Gall cyfranogwyr fwynhau gweithgaredd cyfryngau cymysg creadigol a arweinir gan artistiaid o’r enw ‘Creative Freestyling’ a gyflwynir gan Span Arts yn Sir Benfro, People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin, a Theatr Byd Bychan yng Ngheredigion.

Mae Hwb Celfyddydol yn parhau i ddangos potensial mawr i wella lles plant a phobl ifanc.

Dywedodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda: “Dros y dair rhaglen flaenorol, rydym wedi canfod bod ymgysylltu â gweithgareddau creadigol creadigol a arweinir gan artistiaid yn helpu plant a phobl ifanc i wella eu lles a lleihau teimladau o drallod a datblygu sgiliau ymdopi creadigol am oes.

“Mae gweithgareddau a ddarperir gyda’n partneriaid celf yn helpu i greu gofod diogel i ganiatáu ar gyfer adferiad, hybu gwydnwch a sgiliau ymdopi a chynyddu ymdeimlad o rymuso.”

Os ydych chi neu'ch plentyn yn hysbys i'n S-CAMHS, mae rhaglen Hwb Celfyddydol ar gael i chi.

Mae Hwb Celfyddydol yn seiliedig ar y corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod gan y celfyddydau rôl allweddol i’w chwarae mewn gofal iechyd, yn enwedig o ran gwella lles, hunanhyder, hunan-barch a hunanfynegiant ac mae’n rhan o raglen genedlaethol Celfyddyd a Chrebwyll, a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, siaradwch â’ch clinigwr iechyd meddwl sylfaenol presennol, e-bostiwch  PsychologicalTherapies-SCAMHS.HDD@wales.nhs.uk neu cysylltwch â’n harweinydd ar gyfer therapïau seicolegol S-CAMHS, Katie O’Shea ar 01267 674450.