Neidio i'r prif gynnwy

Radio BGM yn derbyn cymorth ariannol wrth y Loteri Genedlaethol

Mae Gorsaf Radio Ysbyty Llanelli wedi derbyn Cymhorthdal Cymunedol y Loteri Genedlaethol er mwyn ymgymryd uwchraddiadau hanfodol i’w wasanaeth.

Yn darlledu o Ysbyty Tywysog Philip ac yn rhedeg fel gorsaf radio ysbyty a chymunedol sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, mae Radio BGM wedi derbyn bron £9000.

Byddir yn gwario’r grant yma ar wella rhyngweithiad yr orsaf gyda’r cleifion a’r gymuned leol, darparu gwell profiad i’r gwrandawyr, caniatáu fwy o gyfleoedd recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd a digwyddiadau lleol.

Dywed David Hurford, cadeirydd Radio BGM: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod un o’r flynyddoedd fwyaf dadleuol yn hanes yr orsaf ond wrth ddod yn elusen gofrestredig, a gyda chymorth Cyngor Dref Llanelli, Chyngor Gwledig Llanelli a busnesau lleol yn ychwanegol a’r ymroddiad a blaengaredd gan ein tîm o wirfoddolwyr, rydym wedi llwyddo i gadw’r orsaf i ddarlledu’n llwyddiannus ac yn ddiogel.

"Rydym wir yn orfoleddus i gael ein dewis i dderbyn grant wrth y Loteri Genedlaethol, a wnaiff y grant yma wahaniaeth mawr i’n gweithrediadau a chaniatáu i ni weithio’n fwy hyblyg wrth edrych i’r dyfodol.

"Byddwn hefyd yn gallu cyflawni tipyn o waith cynnal a chadw i’n stiwdio, a pharhau i ddatblygu a hyfforddi sêr radio'r dyfodol.”

Sefydlwyd Radio BGM yn 1973 fel ‘Gwasanaeth Darlledu Ysbyty Llanelli’ yn Ysbyty Bryntyrion, ac mae’r orsaf wedi parhau i wasanaethu cleifion Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Erbyn hyn mae technoleg gyfoes yn galluogi pobl yn y gymuned leol i wrando ar eu ‘seinydd clyfar’, ar ein gwefan:  www.radiobgm.org.uk a thrwy ap ‘Radio BGM’ sydd ar gael ar ffonau  Android ac iOS.