16 Hydref 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Cenedlaethol Rhwydwaith Profiad y Claf a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Birmingham.
Y gwobrau cenedlaethol hyn yw’r rhaglen wobrau gyntaf a’r unig raglen i gydnabod arfer gorau ym mhrofiad cleifion ar draws pob maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.
O dan y categori Comisiynu ar gyfer Profiad y Claf, dyfarnwyd yr ail wobr i’n prosiect Hwb Celf.
Mae Hwb Celf yn brosiect cydweithredol rhwng ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) a’r Tîm Celfyddydau ac Iechyd. Bwriad Hwb Celf yw gwella iechyd meddwl a lleihau teimladau o drallod mewn plant a phobl ifanc drwy'r celfyddydau.
Dywedodd Katie O’Shea, Arbenigwr Arweiniol Therapïau Seicolegol S-CAMHS: “Rydym wrth ein bodd bod y prosiect arloesol hwn wedi ennill rhagoriaeth mewn gofal am brofiad cleifion.
“Caiff ein llwyddiant ei briodoli i’r cydweithio eithriadol gyda’n partneriaid celfyddydau mewn iechyd, ac arbenigedd yr artistiaid a gomisiynwyd yn eu rôl annatod wrth greu gofodau meithringar a diogel i’n pobl ifanc.
“Mae’n ein hysgogi i barhau i ymdrechu am ragoriaeth ac arloesedd yn ein gwasanaeth S-CAMHS, gan osod plant a phobl ifanc bob amser yn ganolog i’r hyn a wnawn.”
Ychwanegodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: “Mae’n wych bod gwaith ein tîm Hwb Celf wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Cenedlaethol Rhwydwaith Profiad y Claf.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n partneriaid celfyddydol People Speak Up, Theatr Byd Bach a Span Arts sy’n gweithio’n agos gyda ni i gyflawni ein prosiect Hwb Celf.”
Hefyd ar y rhestr fer yng ngwobrau eleni yn y categori Profiad Canser o Ofal oedd gwasanaeth Gofal Gweithredol Prostrad Gyda’n Gilydd (PACT).
Dan arweiniad Helen Harries, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol Macmillan a Chris Richards, Ymarferydd Cynorthwyol Ffisiotherapi, mae’r gwasanaeth rhithwir newydd yn grymuso pobl â chanser y prostad i hunanreoli sgil-effeithiau triniaeth a gwella eu canlyniadau iechyd.
Dywedodd Helen Harries, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol Macmillan: “Roedd yn bleser bod ar restr fer y Wobr Profiad Canser ymhlith cymaint o brosiectau gwych eraill a gallu dangos gwerth y gofal yr ydym wedi gallu ei ddarparu i’n cleifion canser y prostad.”
Llun: (Chwith i’r dde) Katie O’Shea, Arbenigwr Arweiniol Therapïau Seicolegol S-CAMHS, Kathryn lambert, Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd
Nodyn i'r golygydd:
Ariennir Hwb Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.