Neidio i'r prif gynnwy

Practisau deintyddol lleol yn derbyn Gwobr Aur am gynaliadwyedd

13 Chwefror 2025

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda longyfarch Practisau Deintyddol lleol - Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi, am ennill Gwobr Aur Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae'r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn amlygu eu hymrwymiad rhagorol i gynaliadwyedd tra'n darparu gofal cleifion o ansawdd uchel.

Mae Deintyddfa Aman (agor mewn dolen newydd), a leolir yn Rhydaman a  Deintyddfa Aberteifi (agor mewn dolen newydd), sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi bod yn gwasanaethu’r Gymuned leol gyda gofal deintyddol ers blynyddoedd, tra’n dangos ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd.

Mae'r ddau bractis teuluol yn cynnig ystod eang o driniaethau o archwiliadau deintyddol arferol a glanhau proffesiynol i weithdrefnau deintyddiaeth gosmetig i wella iechyd ac ymddangosiad deintyddol.

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru (agor mewn dolen newydd) yn cefnogi timau gofal sylfaenol i gymryd camau gwirfoddol i wella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn cyflawni ‘Gwobr Aur’ sef eu cydnabyddiaeth uchaf, rhaid i bractisau gwblhau 24 o gamau gweithredu penodol o’r fframwaith, sy’n cynnwys dros 50 o fesurau sy’n cyd-fynd â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (agor mewn dolen newydd). Mae'r camau gweithredu hyn yn rhychwantu meysydd fel rheoli gwastraff, caffael, ac arferion gwaith cynaliadwy, gan rymuso timau i greu effaith gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd heb fod angen adnoddau sylweddol.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor: “Rwyf am estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Deintyddfa Aman a Deintyddfa Aberteifi am ennill y Wobr Aur. Mae eu hymroddiad i gynaliadwyedd a gofal cleifion yn ysbrydoledig. Maen nhw wir yn dangos sut y gall Gofal Sylfaenol arwain y ffordd wrth greu dyfodol gwyrddach ac iachach i Gymru.”

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn tanlinellu ymrwymiad GIG Cymru i leihau ei ôl troed carbon ac yn amlygu’r rôl hanfodol y gall gofal sylfaenol ei chwarae wrth greu dyfodol iachach, mwy cynaliadwy.

DIWEDD