Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniad i'w wneud ar lwybr atgyfeirio iechyd meddwl oedolion

19 Mawrth 2026

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn penderfynu ar newidiadau i'r llwybr atgyfeirio meddygon teulu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arferol i oedolion yng nghyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ar 26 Mawrth 2026.

Bydd y Bwrdd yn ystyried cynnig i wneud y newid llwybr yng Ngheredigion yn barhaol ac, os caiff ei gymeradwyo, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r llwybr yn raddol ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Ers mis Mawrth 2025, mae oedolion yng Ngheredigion sydd angen cymorth iechyd meddwl arferol wedi cael eu cynghori gan eu meddyg teulu i ffonio gwasanaeth GIG 111 Cymru Pwyso 2 yn hytrach na derbyn atgyfeiriad at dîm iechyd meddwl cymunedol Ceredigion.

Cyflwynwyd y newid dros dro hwn mewn ymateb i brinder staff parhaus o fewn tîm iechyd meddwl cymunedol y sir. Ers ei gyflwyno, mae'r llwybr dros dro wedi cefnogi'r defnydd o wasanaeth 111 Pwyso 2 fel y prif lwybr ar gyfer atgyfeiriadau iechyd meddwl arferol i oedolion, gan gynnal mynediad amserol at asesiad wyneb yn wyneb gan dîm iechyd meddwl cymunedol Ceredigion ar gyfer unigolion sydd ei angen.

Mae gwasanaeth 111 Pwyso 2 yn darparu asesiad dros y ffôn gan ymarferydd llesiant lleol, dan oruchwyliaeth nyrs iechyd meddwl gofrestredig, ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth amserol, ac atgyfeirio ymlaen lle bo angen.

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2025, cytunodd y Bwrdd i ymestyn y llwybr atgyfeirio dros dro yng Ngheredigion tan ddiwedd mis Mawrth 2026. Cymeradwyodd y Bwrdd hefyd broses ymgysylltu naw wythnos a redodd rhwng 8 Rhagfyr 2025 a 9 Chwefror 2026. Pwrpas yr ymgysylltu hwn oedd deall yr effeithiau posib, ac unrhyw gymorth y gellid ei roi ar waith, pe bai hyn yn dod yn llwybr parhaol ar draws y Bwrdd Iechyd i feddygon teulu i atgyfeirio cleifion at wasanaethau iechyd meddwl arferol i oedolion.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu barn a'u profiadau gyda ni.

"Hoffwn hefyd ddiolch i Gweithredu Dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru am eu cefnogaeth i sicrhau ein bod yn clywed gan gleifion, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad byw, ochr yn ochr â meddygon teulu, timau gofal sylfaenol, staff iechyd meddwl a phartneriaid a rhanddeiliaid y trydydd sector.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn hygyrch, yn deg ac yn gynaliadwy. Mae'r newid dros dro yng Ngheredigion wedi dangos rhai manteision cadarnhaol, a bydd yr adborth a gawsom gan bobl ar draws y tair sir yn chwarae rhan bwysig wrth lunio penderfyniad y Bwrdd."

Bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl dystiolaeth ac adborth yn ei gyfarfod ym mis Mawrth cyn penderfynu ar ddyfodol y llwybr atgyfeirio iechyd meddwl oedolion.

Mae meddygon teulu wedi gallu parhau i gyfeirio cleifion â'r anghenion mwyaf brys neu gymhleth yn uniongyrchol at dîm iechyd meddwl cymunedol y sir pan fo'n briodol. Maent hefyd wedi cael mynediad at linell gymorth 111 broffesiynol ar gyfer cyngor clinigol ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, mae papur y Bwrdd ar gael i'w ddarllen yma https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2026/agenda-a-phapuraur-bwrdd-26-mawrth-2026/ (yn agor mewn dolen newydd) a bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei ddarlledu'n fyw o 9.30am ddydd Iau 26 Mawrth ar www.youtube.com/hywelddahealthboard1 (yn agor mewn dolen newydd).