Neidio i'r prif gynnwy

Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi

(o

27 Ebrill 2022

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.

Mae'r ddau sefydliad wedi llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), sy'n ymrwymo i bartneriaeth mewn sawl maes newydd, gan gynnwys cynyddu nifer y swyddi anrhydeddus a swyddi a ariennir ar y cyd mewn meysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr; gwella nifer ac amrywiaeth y treialon clinigol ar draws y rhanbarth; canolbwyntio ar dechnolegau diagnostig newydd a threialon cyffuriau masnachol; a chefnogi twf rhaglenni addysgol sy'n hanfodol i ddatblygu modelau darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae gan Brifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bartneriaeth hirsefydlog, sy'n hollbwysig i ddatblygiad ein gweithlu a gwella iechyd, cyfoeth a lles cymunedau ledled gorllewin Cymru.

Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cydnabod mai dim ond trwy gyfraniadau staff sy'n gweithio ar draws y ddau sefydliad y mae cryfder a dyfnder partneriaeth yn bosibl.

Nododd Prif Weithredwr BIP Hywel Dda, Steve Moore, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, a’r Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, y cyfraniadau hyn mewn seremoni i ddiolch i’r penodeion anrhydeddus presennol a newydd am bopeth a wnânt i wneud partneriaeth yn llwyddiant.

Dywedodd Mr Moore: “Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn adeiladu ar y berthynas hirsefydlog a’r gwaith da yr ydym wedi’i wneud ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, ac rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio gyda’r brifysgol yn y meysydd newydd hyn.”

Dywedodd yr Athro Boyle: “Rydym yn falch iawn o’r enw da y mae ein hymchwil a’n hyfforddiant ym meysydd iechyd a gwyddor bywyd wedi’i ennill. Dim ond trwy gydweithio llwyddiannus gyda phartneriaid fel Hywel Dda y bu hyn yn bosibl. Nawr rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn a chydweithio hyd yn oed yn agosach i ddatblygu prosiectau cyffrous ar gyfer y dyfodol.”

Mae sawl datblygiad dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos yr hyn y gall y bartneriaeth ei gyflawni ar draws y rhanbarth. Enghraifft o hyn yw datblygiad Academi Gofal Sylfaenol yn Aberystwyth, sy'n datblygu'r genhedlaeth nesaf o feddygon teulu yn y rhanbarth. Mae twf y campws ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin, yn cynnig rhaglen nyrsio o ansawdd uchel a ddarperir yn y tair sir ac mae nifer o brosiectau ymchwil ac arloesi diweddar, mewn meysydd gan gynnwys peirianneg glinigol, cardioleg, canser y colon a’r rhefr, yn sicrhau gall clinigwyr a chleifion ar draws sir gorllewin Cymru gael mynediad at y datblygiadau arloesol diweddaraf.