Bydd Canolfan Gofal Integredig blaenllaw newydd Aberaeron yn ago rei ddrysau i’r cyhoedd ddydd Llun, 21 Hydref, gan gyd-gysylltu gofal iechyd a chymdeithasol ar gyfer cymunedau lleol am y tro cyntaf.
Yn garreg filltir yn y gwaith o drawsnewid gofal iechyd a chymdeithasol yn y gorllewin, bydd y ganolfan ym Minaeron yn darparu popeth o apwyntiadau Meddyg Teulu a gwasanaethau clinigol sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Ysbyty Aberaeron, i nyrsys ardal a thimau gofal cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector a thîm aml-ddisgyblaethol Porth Gofal.
Ariannwyd y cynllun gyda chefnogaeth dros £3m o arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gam cyntaf y prosiectau Gofal Sylfaenol sydd ar y gorwel, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhafyr 2017. Daeth £400,000 yn ychwanegol o Gronfa Etifeddol Miss Bessie Anne Jenkins at ddibenion cefnogi gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Aberaeron.
Mae Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda wedi bod yn brysur yn helpu staff i baratoi i symud i’r ganolfan newydd a dywedodd bod hon yn gam “pendant a beiddgar” ymlaen o ran darparu gwasanaethau i gymunedau yn y dyfodol.
Ychwanegodd: “Ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion, ein partneriaid trydydd sector a Meddygfa Tanyfron, rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi y bydd Canolfan Gofal Integredig Aberaeron yn agor yn ddiweddarach y mis hwn.
“Mae cymaint o waith wedi mynd i mewn i’r prosiect hwn, a hynny ar gyflymder mawr, gan ein bod am ddarparu’r math o wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol modern a phwrpasol y mae ein poblogaeth yn ei haeddu.
“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn hynod allweddol i hyn, ac o ystyried y ffordd yr ydym wedi dod ynghyd i wireddu hyn, mae gen i ffydd a hyder llwyr ym ein gallu i weithio fel un tîm er budd ein poblogaeth.”
Ychwanegodd Andrew Power, Rheolwr Meddygfa Tanyfron: “Dyma gyfle gwych a chyffrous i staff a chleifion Meddygfa Tanyfron. Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio’n agosach â’n cyd-weithwyr Cymunedol a thrydydd sector ac at wella gofal ar gyfer ein poblogaeth.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar Wasanaethau Oedolion: “Rydym wrth ein bodd bod y Ganolfan Gofal Integredig yn Aberaeron yn agor mor gloi ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion ei werthu i’r Bwrdd Iechyd.
“Mae cydweithio agos fel hyn rhwng asiantaethau gofal yn helpu pawb i ddarparu’r gofal gorau ar gyfer llesiant trigolion Ceredigion.”
Mae cleifion Meddygfa Tanyfron, a’r rhai hynny sy’n mynychu apwyntiadau clinig yn Ysbyty Aberaeron yn cael eu hatgoffa y bydd y gwasanaethau hyn yn symud i’r ganolfan gofal newydd yn Godre Rhiwgoch, Aberaeron, SA46 ODY ar 21 Hydref.
I gysylltu â’r ganolfan, ffoniwch 01545 900 100.
Rhif Meddygfa Tanyfron yw 01545 570 271.