Neidio i'r prif gynnwy

Paentiad Spitfire 'THANK U NHS' wedi'i rhoi i Ysbyty Tywysog Philip

16 Awst 2021

Mae’r artist lleol, Tim Jenkins, wedi rhoi paentiad wedi’i lofnodi o brint adnabyddus i’w arddangos yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Ysbrydolwyd y paentiad gan y peilot John Romain a frandiodd ei Spitfire PL983 gyda ‘THANK U NHS’. Mae’r awyren eiconig o’r Ail Ryfel Byd wedi’i hedfan dros ysbytai a chymunedau fel rhan o ymdrech codi arian i gefnogi Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd. Mae aelodau’r cyhoedd hefyd wedi cael cyfle i enwebu unrhyw un sydd wedi cyflawni gweithred o garedigrwydd yn ystod y pandemig coronafirws ac, yn gyfnewid am rodd, gael eu henwau wedi’u hysgrifennu gyda llaw ar fuselage yr awyren. 

Mae Mr Jenkins, o Felinfoel ger Llanelli, yn aelod llawn arobryn o’r Urdd Artistiaid Hedfan byd-enwog. Meddai: “Roeddwn yn ymwybodol bod daearyddiaeth a chyfyngiadau COVID-19 yn atal hedfan o’r fath dros Ysbyty Tywysog Philip ac felly rwyf wedi paentio’r awyren gyda’r neges. Cafodd ei argraffu yn briodol a’i anfon at John Romain a gytunodd yn garedig i’w llofnodi.

“Nododd hefyd y gallai hedfan dros yr ysbyty fod yn bosibl ond fe wnaeth adfywiad o COVID-19 roi diwedd ar hynny. Er hynny, mae’r teimlad wedi’i gynnwys yn y paentiad ac er na chawsom ein harddangosfa wirioneddol ein hunain dros yr ysbyty mae gennym ddelwedd barhaol o sut y byddai wedi edrych, ac roedd wir yn haeddu saliwt, o’r tir y tu allan i Ysbyty Tywysog Philip.

“Mae’r print yn anrheg barhaol o ddiolch gennyf i Ysbyty Tywysog Philip ac i’w holl staff sydd wedi rhoi cymaint.”

Dywedodd Brett Denning, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Tywysog Philip: “Diolch enfawr i Tim am y darn gwych hwn o gelf ac rydym yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth i’r Ysbyty a’n staff yn ystod cyfnod a fu’n heriol dros ben. Rydyn ni’n bwriadu gosod y paentiad ym mhrif goridor yr Ysbyty i bawb ei fwynhau.”