Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys BIP Hywel Dda ar restr fer gwobr Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN)

Eden Carlisle a Megan Ware

18 Gorffennaf 2022

Mae dwy nyrs o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi’u dewis o blith cannoedd o geisiadau i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Nyrsio’r RCN.

Mae nyrs hwyluso iechyd anabledd dysgu, Megan Ware, a nyrs plant cymunedol (Arweinydd y cyfnod pontio), Eden Carlisle, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Nyrsio Anabledd Dysgu.

Dechreuodd Megan ac Eden gydweithio ym mis Hydref 2021, ar ôl cydnabod bod bwlch yn y gwasanaethau pontio i bobl ifanc ag anableddau dysgu i wasanaethau oedolion.

Mae’r pâr wedi arwain datblygiad llwybr pontio a chlinig dan arweiniad nyrs, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2022. Mae’r clinig yn canolbwyntio’n gryf ar lais y plentyn a’r teulu, gan rymuso’r person ifanc lle bynnag y bo modd i fod yn rhan o’u penderfyniadau gofal iechyd a sicrhau bod canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cael eu hystyried, yn ogystal â deddfwriaeth allweddol arall.

Mae'r tîm hefyd wedi datblygu pasport Pontio i sicrhau bod yr holl wybodaeth a rennir yn ystod y clinig yn cael ei chasglu a'i rhoi i rieni â phecyn gwybodaeth cynhwysfawr fel y gallant fyfyrio ar eu hapwyntiad. Yn ogystal, maent hefyd yn cynnig cyswllt e-bost generig fel y gall teuluoedd gysylltu ag unrhyw ymholiadau pellach, neu i gael cymorth pellach. Derbyniwyd adborth cadarnhaol hyd yma.

Eu nod yw rhannu eu taith i rymuso eraill i wella pontio ledled Cymru ar gyfer y garfan hon o bobl ifanc sy’n agored i niwed.

Dywedodd Megan: “Rydym wedi creu taflen wybodaeth i deuluoedd, a fersiwn hawdd ei darllen i bobl ifanc, yr ydym yn bwriadu ei hanfon allan i gleifion yn 14 oed. Mae hyn yn sicrhau bod y broses bontio yn cychwyn yn gynnar.

“Fe benderfynon ni mai’r ffordd orau o gynnwys pobl ifanc a’u teuluoedd oedd cynnig clinig pontio dan arweiniad nyrs iddynt ei fynychu er mwyn iddynt allu dod ag unrhyw bryderon a chwestiynau oedd ganddynt am bontio, a gallem gynnig cyngor a chymorth ynghylch beth fyddai’r broses yn ei olygu.”

Dywedodd Eden: “Rydym yn gweithio gydag unigolion ag anghenion iechyd cymhleth lle mae llawer i'w drosglwyddo i wasanaethau oedolion. Rydym yn hyblyg, fodd bynnag, rydym yn mabwysiadu dull dim drws anghywir i sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael heb wasanaeth os oes angen wrth iddo ddod yn oedolyn.”

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rwy’n falch o weld cyfraniad eithriadol y tîm yn cael ei gydnabod ar gyfer y wobr fawreddog hon. Mae’r enwebiad hwn yn gyfle gwych i ddweud diolch am eich ymroddiad a’ch tosturi.”

Mae Gwobrau Nyrsio’r RCN yn ddigwyddiad blynyddol sy’n gwahodd nyrsys, myfyrwyr nyrsio a gweithwyr cymorth nyrsio i rannu eu harloesedd a’u harbenigedd a dathlu eu cyfraniad at wella gofal a chanlyniadau i bobl o bob oed a chefndir. Byddai seremoni wobrwyo eleni yn cael ei chynnal ar 6 Hydref yng ngwesty Westminster Park Plaza.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Nyrsio'r RCN, ewch i Wobrau Nyrsio'r RCN (agor yn ddolen newydd).