Os ydy eich plentyn, yn ystod cyfnod y pandemig, wedi symud o’r dosbarth derbyn i flwyddyn un, mae nyrsys ysgol yn gofyn i chi fynd â’ch plentyn at optometrydd i gael prawf llygaid.
Mae hyn am nad oes modd cynnal Adolygiad Mynediad Ysgol oherwydd y cyfnodau clo parhaus a chau ysgolion.
Mae golwg da yn hanfodol i sicrhau bod plant yn cael cyfle i gyflawni eu potensial gweledol, addysgol a chymdeithasol llawn. Efallai na fydd plant yn sylweddoli bod ganddyn nhw broblem gweld, a allai, yn ei dro, effeithio ar eu datblygiad a'u haddysg.
Felly, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch optegydd i fwcio Prawf Golwg ar gyfer eich plentyn, er mwyn sicrhau y gellir nodi unrhyw faterion cyn gynted â phosib.
Bydd yr optegydd yn gallu cynghori pryd gall eich plentyn gael Prawf Golwg. Bydd yr holl staff yn gwisgo PPE yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
Gellir trefnu prawf golwg y GIG i blant o bob practis optometreg (optegwyr) yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i:
https://111.wales.nhs.uk/LocalServices/?s=Optician
http://www.eyecare.wales.nhs.uk/home
Os ydych yn poeni am agwedd arall ar iechyd eich plentyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod.