Neidio i'r prif gynnwy

Newid dros dro yn ward plant Ysbyty Bronglais

Arwydd Ysbyty Bronglais

26 Medi 2024

Bydd plant sydd angen mwy na 24 awr o ofal yn yr ysbyty yn cael eu trosglwyddo o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu’n ddiogel, o ganlyniad i leihad dros dro yn argaeledd nyrsys plant.

Gwnaethpwyd y penderfyniad heddiw (dydd Iau 26 Medi) mewn cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd Ward Angharad, ward plant Bronglais, yn cadw gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Bydd asesiad a thriniaeth yn yr Uned Gofal Dyddiol Pediatrig, lle gellir asesu a thrin plant, yn parhau, yn ogystal â thriniaeth lawfeddygol a sefydlogi.

Bydd plant a phobl ifanc sy’n debygol o fod angen arosiadau estynedig yn yr ysbyty am fwy na 24 awr ac nad ydynt yn debygol o gael eu rhyddhau o fewn ychydig oriau yn derbyn y gofal hwn yn Ysbyty Glangwili, fel sy’n digwydd eisoes gydag achosion mwy arbenigol a chymhleth.

Disgwylir i hyn effeithio ar lai na phedwar o blant neu bobl ifanc a'u teuluoedd bob mis.

Gofynnir i bobl ddefnyddio gwasanaethau iechyd ar gyfer plant fel arfer, gan gynnwys mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Bronglais pan fo angen, neu fynychu PACU ar ôl cael eu cynghori gan Feddyg Teulu, gan mai dim ond pan fydd angen y bydd trosglwyddiadau’n cael eu gwneud a bydd y rhain yn cael eu trefnu gan staff pediatrig mewn cysylltiad â teuluoedd.

Cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd y newid hwn am gyfnod o hyd at chwe mis, gan ddechrau ar 1 Tachwedd 2024. Os bydd ateb staffio yn cael ei sicrhau yn y cyfamser, caiff y sefyllfa ei hadolygu gan y bwriedir dychwelyd y gofal hwn i Ysbyty Bronglais cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Dr Prem Kumar Pitchaikani, Cyfarwyddwr Clinigol y Gyfarwyddiaeth Menywod a Phlant a Phediatregydd Ymgynghorol yn Hywel Dda:

“Wrth i’r gwasanaeth pediatrig baratoi ar gyfer cyfnod anodd y gaeaf, mae rhai pwysau staffio penodol ac ychwanegol yn ward plant Ysbyty Bronglais yr hydref hwn.

“Mae hwn yn newid gwasanaeth gweithredol tymor byr, i gadw ein plant a’n pobl ifanc sy’n derbyn gofal, a’n staff yn ddiogel, wrth i ni archwilio opsiynau i ddatrys y mater hwn.

“Ein blaenoriaeth yw darparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion ifanc a’u teuluoedd a chynnal y mwyafrif helaeth o’r gofal a’r driniaeth a gynigir ar y ward, gan effeithio ar gyn lleied o deuluoedd â phosibl.

“Fe fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad agos â’r teuluoedd sydd efallai’n gorfod cael eu trosglwyddo i Glangwili ac yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.”

DIWEDD