Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at ofal wedi'i drefnu ac mewn argyfwng yn ystod y cyfnod clo byr

Bydd apwyntiadau cleifion allanol ysbytai a llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn parhau fel y trefnwyd. Os oes gennych apwyntiad ysbyty neu lawdriniaeth wedi'i gadarnhau, dilynwch yr un drefn cyn belled nad oes gennych symptomau COVID.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch mynychu eich apwyntiad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad.

Bydd menywod yn parhau i allu dod â'u partner neu rywun arall a enwebwyd i'w cefnogi pan fyddant yn cael eu sgan anomaledd a drefnwyd (sgan 20 wythnos) ac yn ystod esgor gweithredol.

Mewn argyfwng, os oes gennych anghenion gofal brys na all aros ond NID ydynt yn argyfyngau 999, defnyddiwch y gwiriwr symptomau ar-lein https://111.wales.nhs.uk/SelfAssessments/ neu deialwch 111 ar gyfer GIG  Cymru ar gyfer cyngor iechyd a chefnogaeth. Mae'r rhif yn rhad ac am ddim ac ar gael 24/7.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni'n gwybod bod COVID-19 yn effeithio ar bobl, gwasanaethau a busnesau mewn sawl ffordd ac mae'r ffordd y mae'n parhau i herio ein dealltwriaeth o fywyd bob dydd yn teimlo'n anodd iawn i bawb ohonom ar hyn o bryd.

“Os gallwn ni i gyd ddilyn y cyfyngiadau sy'n dechrau am 6pm ddydd Gwener - aros gartref pryd bynnag y bo modd a pheidio â chymysgu â phobl y tu allan i'n cartref - gallwn amddiffyn mwy o bobl rhag y firws.

“Wrth i achosion gynyddu yn ein cymuned Hywel Dda rydym yn gweld cleifion â COVID yn cael eu derbyn i’n hysbytai hefyd. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn gymharol fach, maent wedi cynyddu dros y 2 - 3 wythnos ddiwethaf sy'n arwydd y byddwn yn gweld mwy yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod.

“Mae'r hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud nawr yn helpu i atal y lledaeniad ac mae hyn yn helpu'r GIG yn uniongyrchol fel y gall fod yma i chi o hyd pan fydd ei angen arnoch chi."

Mae'r sefyllfa'n golygu ei bod yn parhau i fod yn angenrheidiol i ni gael ymweliad cyfyngedig iawn â'n hysbytai, er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr a staff.Bydd ymwelwyr yn parhau i gael eu lletya trwy gytundeb rheolwr y ward ar gyfer yr achosion a ganlyn:

• Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro ar gyfer plant a babanod.

• Mam eni - un partner.

• Cleifion ag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl - un ymwelydd i ddarparu cefnogaeth trwy drefniant.

• Cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes neu neu sydd angen gofal lliniarol - i'w trefnu trwy'r nyrs â gofal.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â dod i'r ysbyty ar yr adeg hon, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/cadwn-ddiogel-tra-yn-yr-ysbyty/