Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr lleol yn cael profiad ymarferol mewn diwrnod gyrfaoedd iechyd

Mae myfyrwyr o ysgolion Sir Benfro wedi bod yn siarad â staff gwasanaethau iechyd a gofal lleol am eu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2022.

Mynychodd 1,500 o ddisgyblion ysgol y digwyddiad ‘Dewiswch Eich Dyfodol’ a anelwyd at ddisgyblion Blynyddoedd 10 ac 11, a drefnwyd gan Gyrfa Cymru a’i gefnogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Penfro a sefydliadau lleol eraill.

Rhoddodd y digwyddiad fewnwelediad rhyngweithiol i fyfyrwyr, rhieni ac ymwelwyr i’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y bwrdd iechyd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r llwybrau i yrfaoedd dymunol

Bu 12 adran o’r bwrdd iechyd yn arddangos amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, gan gynnwys nyrsio, therapïau, podiatreg, cyfleusterau gwesty, radioleg, fferylliaeth a gweithlu. Roedd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r gweithwyr iechyd proffesiynol, megis defnyddio offer sonogrffeg, modelau geni a mwy, gan roi cipolwg mwy ymarferol iddynt ar wasanaethau’r GIG.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwerth chweil lle gallem gysylltu wyneb yn wyneb â’n poblogaeth iau am y cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael iddynt yn eu GIG lleol. Roedd bwrlwm mawr yn yr ystafell ac rydym yn obeithiol y bydd llawer o’r myfyrwyr a fynychodd yn mynd ymlaen i fod yn rhan o weithlu’r dyfodol yn Hywel Dda”

Ychwanegodd Andrew Wonklyn, Rheolwr Tîm Gyrfa Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod y digwyddiad wedi mynd yn dda iawn, yn enwedig yr un cyntaf i ni ei gynnal yn Sir Benfro”

Gwnaeth y dewis o yrfaoedd a gynigir argraff fawr ar y myfyrwyr. Roedd natur ryngweithiol a realistig y stondinau arddangos yn caniatáu iddynt ddysgu mwy am yr hyn y mae’r gwahanol broffesiynau iechyd yn ei wneud a gweld drostynt eu hunain sut mae gwahanol fathau o offer yn cael eu defnyddio”

Dywedodd David Evans, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Sir Benfro “Rydym bob amser wrth ein bodd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n arddangos cyfleoedd gyrfa i bobl ifanc. Mae gallu dod a chymaint o alwedigaethau ynghyd o dan yr un to wrth i ddisgyblion wneud eu dewisiadau ôl 16 yn sicrhau eu bod yn gallu casglu’r wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Dywedodd Sian James, Podiatrydd: “Dangosodd y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y gwahanol wasanaethau iechyd. Roedd yn syndod gweld faint o bobl ifanc nad oedd yn gwybod beth yw podiatreg fel proffesiwn, felly roedd yn wych gallu esbonio llwybr gwaith a gyrfa podiatrydd yn y byd sydd ohoni.”

Mynychodd disgyblion o Ysgol Uwchraadd Hwlffordd, Ysgol Caer Elen, Ysgol Bro Preseli, Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, Ysgol Greenhill, Ysgol Bro Gwaun yn ogystal â disgyblion o Ganolfan Ddysgu Dinbych-y-pysgod, ac unedau cyfeirio disgyblion.

Mae digwyddiadau tebyg yn cael eu cynllunio yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn gynnar yn 2023.