Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrio ar Sul y Cofio

18 Tachwedd 2021

Cafodd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yr anrhydedd o osod torchau mewn gwasanaethau coffa lleol dros y penwythnos ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Wedi'i creu gan Oriel VC yn Sir Benfro, gwnaed y torchau o dopiau wedi'u hailgylchu o ffiolau brechlyn a ddefnyddir yn ein canolfannau brechu.

Dywedodd Delyth Raynsford, Hyrwyddwr Dros Dro y Lluoedd Arfog ac Aelod Annibynnol o’r Bwrdd: “Hoffwn fynegi fy niolch i’n Tîm Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Oriel VC yn Hwlffordd am eu creadigaeth ysbrydoledig i dalu parch a choffadwriaeth am y gwasanaeth a aberth cymuned y Lluoedd Arfog.

“Cefais y fraint a’r anrhydedd o gyflwyno torch Covid wrth Gofeb Rhyfel Aberystwyth ddydd Sul. Mae dweud bod pobl yn emosiynol yn danddatganiad. Roedd yn rhaid i mi fy hun fynd yn ôl yn hwyrach y prynhawn hwnnw i gymryd eiliad dawel a myfyrio. Rhaid i mi ddweud bod y diwrnod hwn yn un ddyddiau mwyaf emosiynol fy ngyrfa yn y GIG.”

Gosododd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y dorch gyntaf mewn gwasanaeth coffa ym Mhenfro.

Meddai Maria, “Croesawyd y dorch yn gynnes. Cymeradwyodd y fyddin a’r dorf waith caled staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystod y pandemig a gweinyddu’r rhaglen frechu, na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gwasanaeth a’r gefnogaeth logistaidd a ddarperir gan ein cydweithwyr yn y Lluoedd Arfog”.

Gosodwyd torchau eraill Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan ein staff neu Aelodau Annibynnol fel a ganlyn:

  • Cofeb Rhyfel y Dref yn Hwlffordd (Judith Hardisty)
  • Cofeb Rhyfel y Sir yn Heol y Priordy, Caerfyrddin (Iwan Thomas)
  • Neuadd y Dref Llanelli (Karen Richardson)
  • Cofeb Ryfel Dinbych-y-pysgod (Julie Wall)

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn archwilio a ellid sefydlu teyrnged barhaol gan ddefnyddio'r torchau a wnaed o ffiolau wedi eu hailgylchu.