Neidio i'r prif gynnwy

Miliwn o bigiadau atgyfnerthu COVID wedi'u rhoi yng Nghymru yr hydref hwn

8 Rhagfyr 2022

Mae data wythnosol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod nifer y bobl sydd bellach wedi cael eu pigiad atgyfnerthu wedi cyrraedd 1,023,594 yr wythnos diwethaf.

Daeth cadarnhad hefyd y dylai pawb sy’n gymwys yng Nghymru nawr fod wedi cael gwahoddiad i gael eu pigiad atgyfnerthu diweddaraf. Mae pigiad atgyfnerthu'r hydref yn fersiwn ddeufalent ac mae'n wahanol i'ch pigiad atgyfnerthu gwreiddiol, mae'r brechlyn hwn yn cynnwys y fersiwn wreiddiol a brechlyn ar gyfer yr amrywiad Omicron a bydd yn darparu lefel well o amddiffyniad.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cael eich brechu yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn gyda COVID-19 a’r ffliw.

“Mae pobl sy’n cael eu brechu deirgwaith yn llai tebygol o gael eu derbyn i ofal critigol gyda COVID-19.

“Mae’n hanfodol bod pobl yn manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu COVID-19 a’u brechlyn ffliw blynyddol fel y gallwn barhau i amddiffyn y GIG y gaeaf hwn.”

  • Mae pigiadau rhaglen frechu’r hydref eleni wedi’u cynnig i’r grwpiau blaenoriaeth canlynol:
  • unrhyw un 50 oed neu hŷn
  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn
  • gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, a’u cysylltiadau cartref
  • gofalwyr rhwng 16 a 49 oed

Gwnewch bob ymdrech i gadw'r apwyntiad a roddir i chi gan eich meddyg teulu neu fwrdd iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf. Os ydych yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID yr hydref, yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac nad ydych wedi cael apwyntiad eto, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) cyn gynted â phosibl ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk