Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Tycroes i barhau'n rhan annatod o'r gymuned yn dilyn cyfarfod y Bwrdd

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

3 Hydref 2022

Trafodwyd dyfodol Meddygfa Tycroes, sef meddygfa Cangen Practis Stryd Margaret, Rhydaman, ar 29 Medi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd gais gan Feddygfa Stryd Margaret, Rhydaman, i gau ei Feddygfa Gangen yn gynharach eleni. Yn dilyn yr hysbysiad hwn, cychwynnodd y Bwrdd Iechyd ar gyfnod ymgysylltu o saith wythnos i wrando ar farn cleifion a rhanddeiliaid ac i gael dealltwriaeth o sut y byddai’r bwriad i gau yn effeithio ar gleifion.

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y gangen ar gyfer ystod o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Yr wythnos diwethaf, cytunodd y Bwrdd yn unfrydol bod yn rhaid cefnogi'r Feddygfa i barhau i gynnig gwasanaethau o'i Feddygfa Gangen ac i wrthod y cais gan y Practis i gau Meddygfa Tycroes.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Maria Battle: “Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn Fwrdd sy’n gwrando, ac rydym wedi clywed pryderon y gymuned, ac rwy’n falch o gadarnhau y bydd Meddygfa Tycroes yn parhau i fod ar agor i gleifion.

“Ar ran y Bwrdd hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i roi eu hadborth, sydd wedi bod yn hanfodol wrth lunio ein penderfyniad, a hoffwn estyn fy niolch i’n tîm gofal sylfaenol am eu gwaith caled.” 

Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi gwrando ar gryfder teimladau’r cyhoedd a hoffem roi sicrwydd i gleifion y bydd y gangen yn parhau i fod yn rhan bwysig o’u cymuned yn ddarpariaeth barhaus Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddarperir gan Feddygfa Stryd Margaret.

“Hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am gyfrannu at y broses ymgysylltu.

“Byddwn nawr yn gweithio’n agos gyda’r Practis i sefydlu pa wasanaethau fydd yn cael eu darparu gan Feddygfa Tycroes wrth symud ymlaen.”