26 Hydref 2022
Yn ddiweddar cyflwynwyd medalau i tair o drigolion Ceredigion, sydd â Diabetes Math 1, ar ran Diabetes UK.
I gydnabod dewrder a dyfalbarhad byw gyda diabetes, mae Diabetes UK yn dyfarnu medalau i bobl sydd wedi byw gyda’r cyflwr ers dros 50, 60, 70 neu 80 mlynedd.
Mae Cerys Dodwell o Dywyn wedi bod yn byw gyda Diabetes Math 1 ers dros 60 mlynedd a chyflwynwyd Medal Robert Lawrence iddi.
Cyflwynwyd medal Alan Nabarro i Carole Carroll, o Lwyngwril, i gydnabod byw gyda Diabetes ers dros 50 mlynedd.
Mae Shan Wyn Jones o Lambed wedi derbyn medal Alan Nabarro i gydnabod byw gyda Diabetes ers dros 50 mlynedd.
Mae angen therapi inswlin arnynt bob dydd, ac mae'r dair wedi gweld llawer o newidiadau yn y modd y caiff diabetes ei reoli a'i gefnogi dros y blynyddoedd. Mynegodd Cerys, Carole a Shan eu diolch i'w Tîm Diabetes sydd wedi eu helpu dros y blynyddoedd.
Dywedodd Lona Phillips – Nyrs Arbenigol Diabetes “Rydym yn falch iawn o gyflawniad y dair, ac maent yn dyst i’r ffaith y gall unigolion barhau i fyw a chynnal bywyd egnïol ac iach gyda Diabetes Math 1”.
Er mwyn derbyn y fedal hon, mae angen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol hysbysu tîm Diabetes UK o statws Diabetes y claf ynghyd â gwybodaeth bersonol arall. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch helpline@diabetes.org.uk neu ffoniwch 0345 123 2399.